MANYLION
- Lleoliad: Bangor,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £21.83 - £33.74 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £21.83 - £33.74 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae hwn yn gyfle prin i berson cymwys, egnïol a brwdfrydig ymuno ag un o'r timau Addysg Oedolion gorau yng Nghymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu:cyflwyno cynlluniau dysgu fel teulu mewn cydweithrediad ag ysgolion cynradd lleol
darparu addysg o ansawdd uchel a chreu cyfleoedd i ddysgu a fydd yn galluogi pob dysgwr i gyflawni hyd eithaf ei allu
rhoi gwersi llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol
cynorthwyo i ddatblygu'r ddarpariaeth Addysg Oedolion a Chymunedol yng Ngwynedd a Môn.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r sector Addysg Oedolion gan fod iddo ran flaenllaw i'w chwarae yn y gwaith o gefnogi'r adfywiad economaidd trwy nid yn unig ddarparu cyfleoedd hyfforddiant ond hefyd ysgogi diwylliant o Ddysgu Gydol Oes er budd unigolion a chymunedau.
Dysgu Teulu
Mewn cydweithrediad ag ysgolion cynradd rydym yn awyddus i ddatblygu ein cynlluniau dysgu fel teulu. Bwriad y rhaglen yw cefnogi rhieni / gwarcheidwaid i feithrin sgiliau sy'n eu galluogi i helpu eu plant gyda gwaith ysgol. Cyflwynir y cyrsiau dysgu fel teulu mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd Gwynedd maent yn rhedeg am 12 wythnos ac fe'u targedir at grwpiau blwyddyn a bennir ar y cyd â'r ysgolion unigol. Mae'r cyrsiau'n ymdrin â phynciau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol i helpu i gefnogi a datblygu sgiliau plant yn y meysydd hyn.
Mae'r sesiynau'n rhai hwyliog ac anffurfiol, ac yn adeiladu ar wybodaeth rhieni / gwarcheidwaid ynghylch sut y maent yn mynd ati i gefnogi eu plant I ddysgu. Maent yn cynnig cyfleoedd delfrydol i rieni / gwarcheidwaid wella eu sgiliau eu hunain, gweld sut y gallant gefnogi eu plant i ddysgu a chwrdd â rhieni / gwarcheidwaid a gofalwyr eraill.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/107/25
Cyflog
£21.83 - £33.74 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
- Caernarfon
- Pwllheli
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
Hyd at 6 awr yr wythnos ar gael
Noder - Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
Wythnosau gwaith - 12 wythnos y flwyddyn heb ei chlymu i tymhorau academaidd.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
27 Ion 2025
12:00 YH(Ganol dydd)