MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Digymhwyster: £25,371 - £29,942 pro rataCymwysedig: £32,304 - £49,934 pro rata
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Digymhwyster: £25,371 - £29,942 pro rataCymwysedig: £32,304 - £49,934 pro rata
Darlithydd Gofal AnifeiliaidDigymhwyster: £25,371 - £29,942 pro rata
Cymwysedig: £32,304 - £49,934 pro rata
0.6 Cyfwerth ag Amser llawn - Rhan Amser (22.2 awr yr wythnos)
Cyfnod Penodol am 1 Flwyddyn - dros gyfnod mamolaeth
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm Gofal Anifeiliaid angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont dros gyfnod mamolaeth. Fel Darlithydd Gofal Anifeiliaid byddwch yn cynllunio, yn datblygu, yn darparu ac yn gwerthuso cynnwys cwricwlwm y rhaglenni dysgu gan ddarparu hyfforddiant rhagorol ar draws ystod o raglenni llawn a rhan-amser.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol wedi derbyn addysg hyd at safon Gradd neu gymhwyster uwch mewn maes pwnc perthnasol ac yn meddu ar Dystysgrif TAR, neu byddwch yn barod i gyflawni hyn. Byddant yn meddu ar y gallu i ddysgu amrywiaeth eang o bynciau ymarferol a damcaniaethol o lefel 1 i 5. Bydd brofiad diwydiannol yn ddelfrydol. Gyda sgiliau rhyngbersonol ardderchog a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr byddwch yn frwdfrydig dros gymell pob dysgwr.
Dyddiad cyfweliad: 29ain Ionawr 2025
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.