MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 9 - £40,476 - £44,711
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Busnes - Ysgol Portfield

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 9 - £40,476 - £44,711

Rheolwr Busnes Ysgol Portfield

Gradd 9 pwynt 31 i 35 ar y golofn gyflog

£40,476 - £44,711

Swydd barhaol

Mae Corff Llywodraethu a Phennaeth Ysgol Portfield am benodi Rheolwr Busnes i reoli busnes ac adnoddau'r ysgol wych hon yn strategol.

Ydych chi'n frwd dros sbarduno rhagoriaeth ym maes addysg a gwneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr? Mae Ysgol Portfield yn chwilio am Reolwr Busnes Ysgol dynamig i ymuno â'n tîm arwain a chefnogi llwyddiant parhaus ein hysgol arbenigol.

A hoffech chi weithio mewn ysgol sydd ag adeilad newydd ar gyfer y cyfnod cynradd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd, yn un o ardaloedd harddaf Cymru?

Fel Rheolwr Busnes yr ysgol, byddwch yn chwarae rhan ganolog yn rheolaeth strategol a gweithredol ein hysgol gan sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol. Gan gydweithio'n agos â'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu, bydd rhai o'ch cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Rheoli Arian - Goruchwylio cyllideb yr ysgol, rhagweld y sefyllfa ariannol, cynllunio ariannol.
  • Adnoddau Dynol a Recriwtio - Sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r holl bolisïau Adnoddau Dynol.
  • Rheoli Safle/ Iechyd a Diogelwch - Goruchwylio tîm safle'r ysgol a gweithio'n agos gyda nhw i sicrhau ein bod yn cydymffurfio ym mhob maes.
  • Gweinyddu - Goruchwylio'r tîm gweinyddol a gweithio'n agos gyda nhw i sicrhau bod yr ysgol yn gweithredu'n esmwyth.
  • Cynhyrchu incwm
  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gweithio'n agos gyda Chyfeillion Portfield ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth ariannol y siop elusen yn Hwlffordd.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd rhagweithiol a threfnus sydd â chefndir amlwg o reoli busnes.

Bydd gan ddeiliad y swydd y rhinweddau canlynol:

  • Cymwysterau perthnasol ym maes rheoli busnes, cyllid neu brofiad cyfatebol.
  • Sgiliau arwain a chyfathrebu cryf.
  • Y gallu i feithrin amgylchedd dysgu sy'n ddiogel, yn gynhwysol ac yn bleserus.
  • Y gallu i reoli blaenoriaethau a chyflawni o fewn terfynau amser.
  • Y gallu i fod yn chwaraewr tîm cryf a chydweithio ag eraill.

Pam ymuno â ni?

Yn Ysgol Portfield rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn cynnig y canlynol:

  • Tîm go iawn sy'n cefnogi ei gilydd ac yn ymdrechu i gyflawni disgwyliadau uchel.
  • Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.
  • Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn lleoliad ysgol arbenigol.

Y dyddiad cau: 2 Chwefror 2024

Dyddiad y cyfweliad: I'w gadarnhau

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.