MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £29,093 i £31,067 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.07 i £16.10 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (Generig) Lefel 4 (Ysgol Golwg Pen y Fan)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £29,093 i £31,067 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.07 i £16.10 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (Generig) Lefel 4 (Ysgol Golwg Pen y Fan)Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Datblygu dysgu'r disgyblion mewn ystod o sefyllfaoedd yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys gweithio gydag unigolion, grwpiau bach a dosbarthiadau cyfan os nad yw'r athro priodol yn bresennol. Cefnogi gwaith athro cymwysedig ac, o dan system oruchwylio y cytunwyd arni, bod yn gyfrifol am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt. Mae hyn yn golygu gwneud gwaith penodedig (gweler * isod), gan gynnwys cynllunio, paratoi a
chyflenwi gweithgareddau dysgu i ddisgyblion/grwpiau unigol neu, yn y tymor byr, i ddosbarthiadau cyfan a monitro, asesu, cofnodi ac adrodd am ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.
(*O dan A133 o Ddeddf Addysg 2002, diffinnir gwaith penodedig fel a ganlyn:
• cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau i ddisgyblion
• cyflenwi gwersi i ddisgyblion, gan gynnwys eu cyflenwi drwy dechnegau dysgu o bell neu gyda chymorth cyfrifiadur
• asesu a chofnodi datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
• adrodd am ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.
Mae 'disgyblion' yn cynnwys gwaith gyda disgyblion unigol yn ogystal â grwpiau a dosbarthiadau cyfan).
Bod yn aelod o dîm amlddisgyblaethol a gweithio o dan arweinyddiaeth athro cymwysedig a bennwyd i'r dosbarth neu'r grŵp. Bydd yn gweithio â lefel uchel o awdurdod dirprwyedig o dan system oruchwylio y cytunwyd arni
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon