MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Ysgol Bryn Tabor
Heol Maelor
Coedpoeth
Rhif Ffôn: 01978 720 180
Cadeirydd y Llywodraethwyr: Aled Griffith
Griffitha447@hwbcymru.net
Cyfanswm ar y Gofrestr: 200
PENNAETH
I ddechrau Mis Medi 2025
Arweinyddiaeth L12 - L18
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn gwahodd penaethiaid neu ymarferwyr profiadol sy'n meddu ar gymhwyster CPCP i wneud cais ar gyfer swydd pennaeth.
Rydym yn Ysgol Gynradd Gymraeg sy'n gwasanaethu pentref Coedpoeth a'r cyffiniau. Mae'r ysgol hefyd yn cynnig gofal plant cofleidiol ac mae wedi cyflwyno darpariaeth Dechrau'n Deg yn ddiweddar.
Prif nod yr ysgol yw darparu awyrgylch hapus a diogel lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi ac rydym yn ymdrechu i sicrhau cydbwysedd rhwng llwyddiant academaidd a datblygiad sgiliau personol cadarn. Anelwn at ddarparu'r addysg orau bosibl, gan adlewyrchu anghenion pob disgybl unigol gan alluogi pob un i gyrraedd ei lawn botensial.
Mae gennym ddisgyblion uchel eu cymhelliant, staff ymroddedig, rhieni cefnogol a chorff llywodraethu ymroddedig a gweithgar
Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi pennaeth brwdfrydig a gweledigaethol gyda sgiliau arwain rhagorol ac ymrwymiad ac awch i gynnal safonau a lefelau cyrhaeddiad uchel. Mae'r gallu i gyfathrebu ac i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
Mae'n ofynnol bod ymgeiswyr:
dangos arweinyddiaeth gref a deinamig gyda gweledigaeth glir ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg
dangos ymrwymiad cadarn tuag at hyrwyddo iechyd a lles, llais y dysgwr ac addysg cyfrwng Gymraeg
modelu ac ysbrydoli arfer ardderchog yn yr ystafell ddosbarth a chynnal angerdd cryf dros addysgu a dysgu
ysgogi ac ysbrydoli'r holl ddisgyblion a staff
meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda'r holl randdeiliaid
datblygu potensial llawn pob plentyn ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol
cynnal a chryfhau'r cysylltiadau ar draws ein clwstwr, gan hyrwyddo arfer gorau
creu amgylchedd sy'n sicrhau dysgu effeithiol i'r holl ddisgyblion ac yn hyrwyddo safonau cyflawniad uchel.
arddangos y gallu i arloesi ac addasu i ddatblygiadau mewn addysg.
arddangos sgiliau rheoli ariannol cryf gan ofalu bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol i sicrhau gwerth gorau.
Croesawir ymweliadau â'r ysgol cyn ymgeisio. I gael mwy o wybodaeth ac i wneud apwyntiad ar gyfer ymweliad cysylltwch â Kevin Williams ar Williamsk1034@hwbcymru.net
Bydd y Corff Llywodraethu yn ystyried arfer ei hawl i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w sgiliau a'i arbenigedd, yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.
Mae angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
I ymgeisio: lawrlwythwch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y dudalen we www.wrexham.gov.uk/jobs neu e-bos hrservicecentre@wrexham.gov.uk
DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI'I LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT GADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR ar e-bost
Griffitha447@hwbcymru.net
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.
Noder bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
DYDDIAD CAU: 14:02:25
PROSES GYFWELD
Wythnos asesiadau yn yr ysgol yn dechrau 24.03.25
Cyfweliad ar y 03:04:25