MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Lleoliad Cyn Ysgol Lefel 2 (Mes Bach - Ysgol Gynradd Llangors)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
Cynorthwyydd Lleoliad Cyn Ysgol Lefel 2 (Mes Bach - Ysgol Gynradd Llangors)Swydd-ddisgrifiad
Mes Bach
(Lleoliad Cyn-Ysgol - Llangors)
Angen Cynorthwy-ydd Lleoliad Cyn-Ysgol ar gyfer 1af Chwefror 2025
Mae Arweinydd y Lleoliad, Unigolyn Cyfrifol a Chorff Llywodraethu'r lleoliad cyn-ysgol ffyniannus hwn am benodi 'Cynorthwy-ydd Lleoliad Cyn-ysgol' profiadol, ysbrydoledig
a brwdfrydig ar gyfer Mes Bach. Bydd y swydd yn cynnwys darparu dysgu a gofal o ansawdd sy'n canolbwyntio ar chwarae cyn ysgol yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru a chymorth pwrpasol i blant unigol. Rydym yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr eithriadol sy'n meddu ar gymwysterau addas i ymuno â ni mewn adeilad o'r radd flaenaf. Rydym yn chwilio am gynorthwyydd ysbrydoledig, creadigol ac eithriadol a all:
*Gweithio dan oruchwyliaeth gyffredinol yr Arweinydd Lleoliad neu'r Unigolyn Cyfrifol, y Pennaeth neu aelod uwch arall o staff neu lywodraethwr, i gynorthwyo a chefnogi cyflwyno profiadau chwarae o ansawdd da / cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen fel rhan o gontinwwm y Cyfnod Sylfaen.
*Gweithredu rhaglenni gwaith y cytunwyd arnynt gydag unigolion/grwpiau, yn y lleoliad neu allan ohono, gan fynd i'r afael ag anghenion plant sydd angen cymorth penodol i oresgyn rhwystrau i ddysgu a'u cefnogi.
*Darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar yn y lleoliad lle mae plant a rhieni/gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cael cymorth a chefnogaeth gadarnhaol gan ystod o weithgareddau.
Yn gyfnewid, gallwn gynnig i chi:
• Tîm o staff ymroddedig a chefnogol
• Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
• Ysgol hapus sy'n gofalu am les staff a disgyblion
• Llywodraethwyr, rhieni, a chymuned gefnogol
• Partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid
Croesewir ac anogir ymweliadau â'r ysgol - cysylltwch â swyddfa'r ysgol ar 01874 658663 i drefnu ymweliad.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais ar gyfer y swydd wag hon erbyn: 10 Ionawr 2025
Dyddiad creu rhestr fer:13 Ionawr 2025 Dyddiad cyfweld: 20 Ionawr 2025
Am ffurflen gais a manyleb swydd ffoniwch 01597826409 neu gwnewch gais ar-lein ar www.powys.gov.uk