MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llandysul,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 30,742 - 47,340 *
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 30,742 - 47,340 *
Ynglŷn â'r rôlMae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno a'r ysgol fel athro/athrawes cyfnod dysgu Sylfaen ar gytundeb llawn amser a pharhaol. Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth athrawon profiadol neu newydd gymhwyso i ymuno gyda'n tîm ymroddgar o athrawon oed cynradd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- angerddol dros ddysgu ac yn barod i fynd y filltir ychwanegol i wneud yn siur fod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu cyffrous, hwylus a gwerthfawr er mwyn cyflawni 4 diben y cwricwlwm.
- addysgwr rhagorol
- ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial
Gwybodaeth am Ysgol Bro Teifi
Agorwyd Ysgol Bro Teifi ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy'r Ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae'n cynnig cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o'r lleiaf i'r hynaf. Mewn arolwg Estyn (Chwefror 2019) nodwyd fod 'Ysgol Bro Teifi yn gymuned gynhwysol iawn, hynod ofalgar a Chymreig. Yn greiddiol i'w gwaith mae ei darpariaeth arbennig ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad sy'n cydweddu ag arwyddair yr ysgol, oni heuir ni fedir.'
Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu'n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae 847 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Mae'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Pecyn Gwybodaeth
Os am drafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon, cysylltwch â'r Pennaeth, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy