MANYLION
  • Lleoliad: Abergavenny, Monmouthshire, NP7 9LS
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2025
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 03 Ionawr, 2025 12:00 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Dysgu – Lefel 2, Ffederasiwn Ysgol Gynradd Llanffwyst Fawr a Llanfihangel Crucornau

Cyngor Sir Fynwy
Mae Ysgol Gynradd Llanffwyst Fawr yn ceisio cyflogi Cynorthwyydd Dysgu profiadol ac ymroddedig i ymuno gyda’n tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y Cyfnod Uchaf er mwyn helpu unigolion sydd ag anghenion dynodedig. Bydd angen i ymgeiswyr arddangos eu gallu i weithio’n gefnogol ac effeithiol ynghyd ag yn arloesol ac annibynnol.

Pwrpas y Rôl hon:-
• Gweithio o dan gyfarwdydd a chanllawiau dysgu ac aelodau o’r uwch dîm rheoli.
• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i ganiatáu mynediad at ddysgu.
• Cefnogi’r athro/athrawes i reoli disgyblion o fewn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Rôl hon:-
• Goruchwylio a darparu cefnogaeth i ddisgyblion, gan gynnwys y rhai hynny ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael mynediad at weithgareddau dysgu.
• Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu’r holl ddisgyblion, gan gynnwys gweithredu’r Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol - gan gynnwys mynd i’r toiled, bwydo a symudedd.

Eich cyfrifoldebau yw:-
Cynorthwyo Disgyblion

• Goruchwylio a darparu cymorth penodol i ddisgyblion, gan gynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael mynediad at weithgareddau dysgu.
• Cynorthwyo gyda’r broses o addysgu a datblygu'r holl ddisgyblion, gan gynnwys gweithredu Cynllun Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol - gan gynnwys mynd i’r toiled, bwydo a symudedd.
• Rhoi meddyginiaeth - ar ôl derbyn hyfforddiant - yn unol â gweithdrefnau’r Awdurdod Addysg Leol a pholisïau’r ysgol.
• Hyrwyddo awyrgylch sydd yn cynnwys ac yn derbyn pob un disgybl.
• Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac ymgysylltu yn y gweithgareddau sydd yn cael eu harwain gan yr athro/athrawes/plentyn/plant
• Gosod disgwyliadau heriol a hyrwyddo hunanwerth ac annibyniaeth.
• Darparu adborth i’r holl ddisgyblion o ran cynnydd a chyrhaeddiad, a hynny o dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Gweithredu strategaethau er mwyn annog annibyniaeth a hunanhyder.
• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni, cydnabod a gwobrwyo’r hyn sydd yn cael ei gyflawni.

Cynorthwyo’r Athro/Athrawes

• Darparu adborth manwl a chyson i athrawon ar gyraeddiadau, cynnydd tuag at dargedau a phroblemau’r disgyblion ayyb.
• Gweithio gyda’r athro/athrawes er mwyn creu awyrgylch ddysgu bwrpasol, drefnus a chefnogol
• Gweithio gyda’r athro/athrawes er mwyn rhannu cynlluniau tymor byr ac amcanion dysgu penodol ar gyfer: grwpiau, unigolion, y dosbarth cyfan.
• Monitro ymatebion disgyblion i weithgareddau dysgu a chynnal cofnodion am y disgyblion fel sydd angen.
• Sefydlu arferion er mwyn sicrhau bod adborth cyson ac effeithiol yn cael ei rannu gyda'r athro/athrawes o ran y cynnydd a wneir gan y disgyblion yn erbyn y targedau dysgu.
• Gweithredu polisi’r ysgol o ran hyrwyddo ymddygiad positif ymhlith disgyblion ac agweddau at ddysgu.
• Cynnal profion arferol a goruchwylio arholiadau.
• Ymgymryd â thasgau clerigol a gweinyddol fel sydd angen e.e. llungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyron i rieni.


Cynorthwyo’r Cwricwlwm

• Cynnal gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytunedig.
• Cynnal rhaglenni sydd yn gysylltiedig â strategaethau lleol a chenedlaethol e.e. llythrennedd, rhifedd, y Cyfnod Sylfaen, Asesu ar gyfer Dysgu
• Cefnogi’r defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion wrth iddynt ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth.
• Paratoi, cynnal a defnyddio cyfarpar/adnoddau sydd eu hangen er mwyn diwallu anghenion cynlluniau gwersi/gweithgareddau dysgu perthnasol a chynorthwyo disgyblion i’w defnyddio.
• Ymgymryd â rhaglenni sydd yn gysylltiedig gyda’r strategaethau dysgu lleol e.e. Llythrennedd, rhifedd a TGCh.
• Cefnogi’r defnydd a wneir o TGCh wrth i ddisgyblion ddysgu a’u hannog i’w ddefnyddio yn annibynnol.
• Paratoi, cynnal a defnyddio cyfarpar ac adnoddau er mwyn diwallu anghenion y rhaglenni dysgu cytunedig a gweithgareddau dysgu.
• Gweithio yn sensitif ac yn effeithiol gyda rhieni, gofalwyr - fel y cytunir gyda’r athro/athrawes.
• Cymryd rhan mewn cyfarfodydd gyda rhieni a chyfrannu at adolygiadau blynyddol yn unol ag arferion yr ysgol.


Cynorthwyo’r Ysgol

• Bod yn ymwybodol a chydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau o ran cynhwysiant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data a rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw bryderon.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol gan gynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
• Gwerthfawrogi a chefnogi rôl y gweithwyr proffesiynol eraill.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd fel sydd angen.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac adolygiadau proffesiynol fel sydd angen.
• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i wersi, gan gynnwys cyn neu ar ôl ysgol ac yn ystod yr egwyl ginio.
• Mynd gyda’r staff a’r disgyblion ar ymweliadau, tripiau a gweithgareddau y tu hwnt i’r ysgol fel sydd angen a chymryd cyfrifoldeb am y grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.