MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Gwaith Ieuenctid C (Cydlynydd Inspire) - Mewnol yn unig

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Prosiect Gwaith Ieuenctid mewn Ysbyty gan Inspire

Contract dros dro tan 31 Mawrth 2026 oherwydd cyllid

Lefel Broffesiynol J.N.C, Ystod Pwyntiau 18-21

37 awr yr wythnos

Mae'r Adran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar yn dymuno penodi unigolyn llawn ysgogiad i gydlynu gwaith dydd i ddydd Prosiect Gwaith Ieuenctid mewn Ysbyty gan Inspire. Mae Inspire yn cefnogi pobl ifanc sy'n dangos ymddygiad o hunan-Niweidio. Mae'n chwarae rôl bwysig wrth gefnogi pobl ifanc gydag ymyraethau cynnar ar sail un i un, ac ar wardiau ysbyty yn ogystal â chyflwyno gweithgareddau atal mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid.

Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb rheoli atebol a goruchwylio staff gwaith ieuenctid. Bydd angen iddynt ystyried anghenion a pherfformiad gwasanaeth, hyfforddiant a datblygiad staff a gwasanaeth fel sy'n ofynnol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Sara Tompkin, Uwch Ymarferydd Lles, Rhif ffôn: 07803 022159 neu e-bost: sara.tompkin@wrexham.gov.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.