MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogi Busnes (Dechrau'n Deg) - Mewnol yn unig

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Dros dro tan 31/03/2025
22.5 awr yr wythnos
G04 - £15,075 - £15,313 y flwyddyn

Mae Dechrau'n Deg yn gynllun gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle go iawn i wneud gwahaniaeth i blant o dan bedair oed a'u teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd penodol yn Wrecsam ac sydd fwyaf angen cymorth.

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cymhorthydd Cefnogi Busnes yn y gwasanaeth. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm amlddisgyblaethol cyfeillgar a dyfeisgar o weithwyr proffesiynol iechyd, addysg a gofal cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg yn Wrecsam.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol i dîm amlddisgyblaethol Dechrau'n Deg yn swyddfa Brynteg a bydd gofyn cyflenwi mewn swyddfeydd eraill yn Wrecsam o bryd i'w gilydd.

Dylai fod gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o ddefnyddio pecynnau TG yn y gweithle a gwella arferion, yn ogystal â sgiliau rhagorol wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn rhifyddol ac wrth gymryd cofnodion.

I gael trafodaeth anffurfiol, ffoniwch Vicki Sadowska, Rheolwr Cymorth i Deuleodd a Rhianta Dechrau'n Deg ar (01978) 298332.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg