MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £22,934 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch Gymhorthydd Arbenigol Uned Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) - Gwynedd/Ynys Môn

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £22,934 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD

Dyddiad Cychwyn: Cyn gyntaf a phosib tan Mawrth 2026

Uwch Gymhorthydd Arbenigol Lefel 4 dros dro i'r Gwasanaeth Asesu ac Arsylwi yn y Blynyddoedd Cynnar (ABC) yn ardal Gwynedd ac Ynys Môn

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos

(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am
  • ddarparu mewnbwn i grŵp o blant o fewn Canolfan Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) yn Ynys Mon a Gwynedd o dan Arweiniad yr Athrawon Arbenigol Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar
  • Darparu mewnbwn ymestyn allan i unigolion a grwpiau o blant yn eu hysgolion prif lif yn Ynys Mon a Gwynedd dan Arweiniad yr Athrawon Arbenigol Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC),

Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn fanteisiol. Byddai cymwysterau o fewn y maes ADYaCh hefyd yn fanteisiol.

Mae lleoliad y Swydd yn benodol I Meirionnydd a Dwyfor a Cyngor Gwynedd fydd y cyflogwr ar gyfer y Gwasanaeth.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (sef £21,142 i £22,934) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.

Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu â GweinyddolADYaCH@gwynedd.llyw.cymru

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Bydd y cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth diogelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn

Dyddiad Cau am geisiadau: 10 y.b Dydd Gwener 10fed o Ionawr 2025

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau ar ddyddiad i'w bennu.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Y gallu i gydweithio ag ystod eang o bobl. Gallu i ddelio â phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
• Trefnu amser yn effeithiol
• Sgiliau cyfathrebu clir
• Gallu cydweithio fel aelod o dîm
• Gallu i weithio'n hyblyg
• Brwdfrydedd
• Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth
• Y gallu i gyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd

DYMUNOL

-

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

• Cymhwyster Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch e.e. Diploma neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth
• Sgiliau rhif/llythrennedd ardderchog
• Sgiliau/hyfforddiant arbenigol yn y maes cwricwlaidd neu ddysgu
• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol a/neu chynhwysiad NEU profiad sylweddol yn y maes
- Nam Clyw: Lefel 4 mewn BSL
- Nam Golwg: Lefel 2 mewn Braille
- Cyfathrebu a Rhyngweithio: Ymrwymiad i ddilyn hyfforddiant Lefel 2/3 yn y maes penodol (e.e. Elklan)
- ADY Penodol: Ymrwymiad i ddilyn Cymhwyster neu Ddiploma ym maes Anhawsterau Dysgu Penodol
- Cynnal Ymddygiad: Ymrwymiad i ddilyn Tysysgrif neu Ddiploma Lefel 2/3 (e.e. NVQ) neu gyrsiau penodol yn y maes (e.e. Webster-Stratton)

DYMUNOL

• Sgiliau/hyfforddiant arbenigol yn y maes cwricwlaidd neu ddysgu
- Nam Clyw: Gradd mewn Byddardod
- Nam Golwg: Dealltwriaeth gadarn mewn o leiaf 5 côd Braille
- Synhwyraidd / Meddygol /Corfforol - Tysysgrif neu Ddiploma mewn Adsefydlu a Symudedd Nam Synhwyraidd
- Cyfathrebu a Rhyngweithio: Cymhwyster Elklan Lefel 2 neu uwch
- ADY Penodol: Cymhwyster neu Ddiploma ym maes Anhawsterau Dysgu Penodol
- Cynnal Ymddygiad: Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2/3 (e.e. NVQ) neu fod wedi mynychu cyrsiau penodol yn y maes (e.e. Webster-Stratton)

• Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo'n briodol

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

• Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

DYMUNOL

Profiad o:
• Ddefnyddio dulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
• Gyfrannu a gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

• Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
• Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer
• Dealltwriaeth o anghenion amrywiol
• Sgiliau cyfathrebu da a chadarn gyda'r gallu i gyfathrebu yn effeithiol gyda phobl a pharchu'r angen i fod yn gyfrinachol.
• Sgiliau cyfrifiadur da - defnydd effeithlon o TGaCh i gefnogi dysgu.
• Y gallu i gyflwyno syniadau a strategaethau i gyd-weithwyr yn hyderus
• Gwybodaeth weithio a phrofiad o weithredu cwricwlwm cyfnodol cenedlaethol/sylfaenol a rhaglenni/strategaethau dysgu eraill perthnasol.
• Dealltwriaeth dda o ddatblygiad a phrosesau dysgu plentyn
• Deall fframweithiau statudol perthynol i addysgu.
• Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheiny.

DYMUNOL

• Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
• Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.

Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.

Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa.

Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

Cefnogi disgyblion sydd ag ADY yn y Blynyddoedd Cynnar yn ysgolion a chanolfannau Gwynedd a Môn fel rhan o dîm integredig ADY a Chynwysiad.

Gweithredu'r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.

Sefydlu perthynas weithiol, effeithiol gyda'r disgyblion gan weithredu fel unigolyn proffesiynol.

Cyflenwi gwaith proffesiynol athro drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan gyfundrefn oruchwylio gytun. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolyn/ grwpiau a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac drodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.

Cynnig arweiniad a chefnogaeth er mwyn rheoli cymorthyddion addysgu eraill, yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

• Cynorthwyo'r Uwch Athrawes Arbenigol Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) efo dyletswyddau rheoli cymorthyddion addysgu eraill
• Ymgymryd a recriwtio/ anwytho/ gwerthuso/ hyfforddi/ mentora ar gyfer cymorthyddion addysgu eraill.
• Ffôn symudol.
• Gliniadur
• Creu adnoddau, fel rhan o dîm, i ategu at fanc adnoddau i ysgolion
• Offer TGCh i gefnogi dysgu'r disgyblion

Prif Ddyletswyddau. .

Cefnogaeth i Ddisgyblion

• Darparu mewnbwn ymestyn allan i unigolion a grwpiau o blant yn eu hysgolion prif lif o dan Arweiniad yr Athrawon Arbenigol Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC), Uwch Seicolegydd Addysgol yn unol â gofynion y Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.

• Darparu mewnbwn i grŵp o blant o fewn Canolfannau Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) o dan Arweiniad yr yr Athrawon Arbenigol Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) ac Uwch Seicolegydd Addysgol, yn unol â gofynion y Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.

• Cymryd cyfrifoldeb am y grŵp o blant o fewn y Ganolfan Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) pan fo'r Athrawes Arbenigol yn absennol ac yn darparu gwasanaeth yn y prif lif neu mewn Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.

• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu Cynllun Datblygu Unigol / Cynllun Cyfathrebu Unigol y disgyblion

• Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu'r disgyblion.

• Cyd-weithio gydag Athrawon Arbenigol yn y maes Blynyddoedd Cynnar ac asiantaethau eraill perthnasol.

• Cydweithio gyda Cymorthyddion o fewn yr ysgolion prif lif i fodelu pecynnau ymyrraeth effeithiol gyda'r disgyblion sydd yn cael sylw gan y Tîm Blynyddoedd Cynnar.

• Cefnogi'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anghenion ychwanegol.

• Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.

• Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabod a gwobrwyo cyflawniad a hunan-ddibyniaeth.

• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas a chynnydd a chyflawniad.

• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda'r disgyblion a chydweithwyr.

• Darparu gwybodaeth ar gyfer asesiad cyfansawdd o anghenion a chynnydd y disgyblion.

• Creu a darparu pecynnau gwaith arbenigol i ddisgyblion yn unol â'u Cynllun Datblygu Unigol/ Cynllun Cyfathrebu Unigol/Cynllun Meddygol os yn berthnasol.

• Rhannu arferion da gyda staff o fewn yr ysgol a modelu technegau yn ôl yr angen.

Cefnogaeth i Athrawon

• Ymweld ag ysgolion i gefnogi disgyblion ag ADY.

• Cefnogi mynediad disgyblion i ddysgu drwy ddefnyddio strategaethau sydd wedi eu profi i fod yn effeithiol o dan arweiniad yr Athrawon Arbenigol.

• Gweithio gyda staff eraill megis athrawon arbenigol, seicolegwyr addysgol i gynllunio, arfarnu ac addasu deunyddiau a gweithgareddau dysgu fel y bo'n briodol.

• Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu drwy ystod o strategaethau asesu a monitro yn erbyn nodau dysgu a ragbenodwyd.

• Darparu adborth ac adroddiadau gwrthrychol a chywir i staff eraill ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.

• Bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion fel y cytunwyd â staff eraill, cyfrannu at arolygu systemau/cofnodion fel bo'r gofyn.

• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu strategaethau yn y maes hwn.

• Cyfrannu at Hyfforddiant Mewn Swydd i athrawon/cymorthyddion o dan arweiniad yr Uwch Seicolegydd Addysg a'r Athrawon Arbenigol o fewn y Tîm Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC).

• Cefnogi rhan rhieni yn nysgu'r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd/ arwain cyfarfodydd gyda rheini i ddarparu adborth adeildadol ar gynnydd/ cyflawniad disgyblion.

• Cefnogaeth glerigol/weinyddol, e.e. ymdrin â gohebiaeth, casglu/dadansoddi/adrodd gwybodaeth berthnasol, gwneud galwadau ffôn, ayyb.

• Gweinyddu ac asesu/ marcio profion a goruchwylio arholiadau/ profion

• Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau ayyb

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm

• O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i'r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/ anghenion y disgyblion.

• Bod yn ymwybodol a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolion, ar gyfer darparu cefnogaeth i'r disgyblion i ehangu a chyfoethogi eu dysgu.

• Dethol a pharatoi adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.

Cyffredinol:

• Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau ADY a diogelu plant.

• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol ein tîm integredig ADY a Chynwysiad.

• Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau eraill er mwyn cefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.

• Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chymryd rhan ynddynt.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.

• Adnabod hunan gryfderau ac ardaloedd arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-

Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi