MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,473 - £24,962
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £24,473 - £24,962
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Cymhorthydd Dysgu
Lleoliad: Llaneurgain
Y Math o Gontract: Parhaol, Rhan amser (28 awr yr wythnos, dros 36 wythnos)
Cyflog: £24,473 - £24,962 (cyflog llawn amser yw hwn, bydd y cyflog yn pro rata yn ddibynnol ar eich patrwm gwaith)
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Gymorthydd Dysgu i ymuno â'n tîm yn Llaneurgain i gynnig cymorth i'n dysgwyr sydd gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Yn ddelfrydol rydym yn chwilio am unigolyn sydd gyda phrofiad blaenorol mewn cynnig cymorth i ddysgwyr mewn amgylchedd addysg. Rydym yn awyddus i recriwtio pobl sy'n credu'n angerddol bod grymuso a galluogi pobl ifanc gydag ystod o alluoedd o fewn amgylchedd addysg yn eu helpu nhw i fodloni eu gobeithion bywyd a gwaith.
Gofynion Hanfodol
- Mae'n hanfodol bod gennych chi sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i addasu eich dulliau cyfathrebu yn ôl y galw i fodloni anghenion pobl ifanc ac oedolion.
- Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd cadarn Lefel 2 neu'n uwch.
- Rydym yn chwilio am unigolion sy'n gallu dangos empathi a dealltwriaeth am ystod o anawsterau/anghenion dysgu yn ogystal â dangos gwytnwch, amynedd a synnwyr digrifwch.
- Yn ddelfrydol bydd gennych chi brofiad blaenorol yn yr ystafell ddosbarth o gynnig cymorth i ddysgwyr sydd gydag anghenion dysgu ychwanegol neu brofiad personol perthnasol helaeth.
- Bydd disgwyl i chi ddangos brwdfrydedd dros rymuso a galluogi pobl ifanc.
- Byddwch yn dangos y gallu i adeiladu perthnasau gwaith da gyda dysgwyr a staff a'r gallu i reoli grwpiau o ddysgwyr. Mae angen dangos dull cadarnhaol o ymateb i ymddygiadau heriol.
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig