MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Athrawon Heb Gymhwyso Pwynt 1-2
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes Ffraneg (Hyfforddi fel athro Uwchradd) - Ysgol Dyffryn Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Athrawon Heb Gymhwyso Pwynt 1-2

Ysgol Dyffryn Conwy

Ffordd Nebo, Llanrwst, Conwy. LL26 0SD Ffôn: 01492 642802

E-bost: fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk www.ysgoldyffrynconwy.org

Yn eisiau erbyn mis Medi 2025

Athro / Athrawes Ieithoedd Tramor Modern (Ffraneg) (hyfforddi fel athro Uwchradd)

Dyma gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy'r

Brifysgol Agored TAR WEDI EI ARIANNU'N LLAWN (rhaglen 2 flynedd).

Contract dros dro hyd at 31/08/2027

Graddfa Cyflog: Graddfa Athrawon Heb Gymhwyso Pwynt 1-2 (£21,812- £24,348y flwyddyn)

********************************

Mae'r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn trwy raglen bartneriaeth TAR (2 flynedd) a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru drwy ddarpariaeth y Brifysgol Agored. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ysgol wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi

ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd un ai'n gweithio ar hyn o bryd ac eisiau newid gyrfa, neu sydd â phrofiad yn y gorffennol o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu a hyfforddwyr dysgu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa yn ogystal â swyddogion ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol hefyd.

Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i ymuno ag Ysgol Dyffryn Conwy, gan y byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i hyfforddi gyda staff profiadol ac arloesol mewn maes dysgu sydd ar flaen y gad mewn perthynas â Chwricwlwm i Gymru ac wrth greu adnoddau ysbrydoledig. Y mae i'r ysgol gymuned a naws deuluol nodedig lle mae perthynas agos o ymddiriedaeth, gofal a pharch rhwng pobl ifanc a'r staff. Mae yma elfen gref o gydweithio a chefnogaeth barod ymysg y tîm o staff, lle mae pob aelod o staff yn deall pa mor allweddol yw eu rôl hwy yn llwyddiant ac yn lles ein plant, ein pobl ifanc, a'n gilydd fel oedolion proffesiynol.

Rydym yn edrych am unigolyn sydd yn angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol a thrwy hynny, wneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywyd ein pobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd deilydd y swydd hon yn cael cefnogaeth lawn gan yr ysgol a'i phobl wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwr hyderus, arloesol a chreadigol.

DISGRIFIAD O'R RHAGLEN

Gofynion mynediad ar gyfer llwybr TAR i addysgu a ariennir yn llawn gan y Brifysgol Agored

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddal y canlynol, o leiaf:
  • Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd • Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • Gradd anrhydedd lawn yn y DU (neu gyfwerth). Rhaid i chi feddu ar radd sydd ag o leiaf
50% o berthnasedd i'r pwnc os ydych am addysgu i ddod yn athro ysgol uwchradd (dysgwyr 12-16 oed). I'r ymgeiswyr hynny sy'n gwneud cais pwnc Cymraeg, nid oes rhaid i'ch gradd fod yn y maes hwn o reidrwydd os gallwch ddangos eich bod yn defnyddio'r iaith yn rhugl, oherwydd efallai y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi yn dibynnu ar ddyfnder eich gwybodaeth.
  • Mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i ymrwymo i gontract amser llawn (nid yn ystod y tymor yn unig) tan ddiwedd y rhaglen ym mis Awst 2027 a bydd yn ofynnol iddynt fod wedi'u lleoli yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Am unrhyw gwestiynau neu wybodaeth bellach am y rhaglen e-bostiwch Tîm PGE Cymru ar TAR- Cymru@open.ac.uk neu ewch i TAR | Cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion | Y Brifysgol Agored (open.ac.uk)
  • Mae'r llwybr TAR yn rhaglen 2 flynedd
  • Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach
  • Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
  • Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd yma.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â Mrs Ffion Sabit, Clerc y Llywodraethwyr ar e-bost fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk

This form is also available in English.