MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Disgrifiad

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair
Brymbo
Wrecsam
LL11 5DA
Ffôn: 01978 722970
Pennaeth: Mr Andy Williams
Teitl y Swydd: Rheolwr Safle/Gofalwr
G04 £24,790 - £25,183 pro rata
15 awr yr wythnos
52 wythnos y flwyddyn
Dim gwyliau yn ystod y tymor
Dros dro tan fis Gorffennaf 2026 gyda chyfle am swydd barhaol
Dyddiad dechrau: 10 Chwefror 2025
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR
Rydym yn chwilio am Reolwr Safle brwdfrydig, dibynadwy a chyfeillgar sy'n ymroi i'r fro leol i ymuno â'n hysgol yn llawn ym mis Chwefror 2025.
Bwriadwn benodi rhywun brwdfrydig â synnwyr digrifwch iach i chwarae rhan allweddol wrth gynnal a chadw safle'r ysgol a sicrhau fod yma amgylchedd croesawgar a diogel i bawb yn yr ysgol.
Yr oriau gwaith arferol yn ystod y tymor yw 6.45am - 8.15am a 4.30pm - 6.00pm. Mae'n rhaid cymryd gwyliau blynyddol yn ystod gwyliau'r ysgol. Gellir dod i drefniant â'r Pennaeth ynglÅ•n â'r oriau gwaith yn ystod gwyliau'r ysgol, a thrafodir oriau wythnosol ychwanegol yn y cyfweliad.
Byddwch yn gyfrifol am gadw'r ysgol yn ddiogel, yn gallu gwneud mân waith trwsio, cynnal archwiliadau diogelwch fel bo'r angen a sicrhau y cedwir cofnodion digonol. Byddwch hefyd yn brif ddeiliad yr allweddi ac felly'n gyfrifol am agor a chloi'r ysgol bob dydd.
Byddwch yn trefnu bod gwastraff yn cael ei waredu'n effeithlon o'r adeilad a thir yr ysgol, gan gynnwys deunydd ailgylchu, a sicrhau bod y tu allan yn glir o chwyn, sbwriel a llanast.
Disgwylir i chi fynd i'r ysgol fel y bo'n briodol y tu allan i oriau gwaith arferol os digwydd i'r larwm ganu neu os oes argyfwng arall. Mae'r swydd hon yn addas i rywun sy'n byw'n lleol.
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:
WilliamsA1907@Hwbcymru.net
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 10 Ionawr 2025
CYFWELIADAU: Dydd Llun 13 Ionawr 2025
Dyddiad dechrau: 10 Chwefror 2025