MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Ardudwy, Harlech,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £22,191 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gofalwr / Rheolwr Safle- Ysgol Ardudwy, Harlech

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £22,191 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

YSGOL ARDUDWY

(Ysgol Gyfun 11 - 16: 334 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 01/02/2025 neu cyn gynted a phosib wedi hynny.

GOFALWR / GOFALWRAIG

Oriau gwaith : 37 awr yr wythnos a goramser.

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio 7.5awr y diwrnod Llun-Iau a 7awr dydd Gwener, ac i weithio i batrwm gwaith cytunedig sy'n cyd-fynd ac amseroedd agor a chau'r adeilad.

Yn ogystal bydd angen gweithio oriau yn ystod y dydd er mwyn gweithio 37awr yr wythnos, bydd hyblygrwydd o ran yr oriau yn unol a gofynion yr Ysgol.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 i 6 (£24,790 i £25,183) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol a'r Pennaeth, Mr. Aled Williams B.Sc. (Rhif Ffôn 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Angela Walters, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Ardudwy, Harlech, LL46 2UH Rhif ffôn 01766 780331 e-bost: sg@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DDYDD MERCHER, 15 IONAWR, 2025.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

(The above is an advertisement for the post of Caretaker at Ysgol Ardudwy for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

SWYDD: Gofalwr yr Ysgol AMODAU GWAITH: Amodau gwaith Cenedlaethol ac atodol lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer staff GPT ac Ch a gweithwyr llaw. ATEBOL I: - Y Pennaeth drwy'r rheolwr busnes.
CYFRIFOLDEB : CYFLOG : GS 3 (pwyntiau 5 i 6)
ORIAU : 37 awr yr wythnos (sifft ranedig) GWYLIAU : Yn ystod gwyliau ysgol (20 diwrnod yn codi i 25 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth di-dor)

DYLETSWYDDAU
Bydd pob aelod o staff yn yr Ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd. Dylai pob aelod o staff, heb eithriad, weithredu yn ôl polisïau'r Ysgol.

Pwrpas y Swydd :
• Goruchwylio adeiladau'r Ysgol i sicrhau fod yr adeilad yn ddiogel.
• Bydd y gofalwr yn gyfrifol am sicrhau rhediad effeithiol yr Ysgol gan sicrhau bod ystafelloedd a gwasanaethau ar gael ac mewn trefn ar gyfer athrawon a phawb arall sydd â hawl i'w ddefnyddio.
• Ymgymryd ag agweddau o waith glanhau achlysurol o fewn ei oriau gwaith pan na fydd y glanhawyr cyflogedig ar y safle er mwyn sicrhau glendid fel modd o hybu iechyd.
• Monitro diogelwch a chyflwr yr adeilad.
• Rheoli gofynion iechyd a diogelwch
• Rheoli a gofal dros gontractwyr allanol sydd yn gweithio ar y safle.
• Cynnal a Chadw
• Delio ag argyfyngau cyffredinol
• Bws mini'r Ysgol
• Dal goriadau yr Ysgol ac ateb galwadau allan i ymateb i larwm yn canu.
• Cyn agor yr ysgol yn y bore datgloi'r drysau allanol a drysau mewnol.
• Agor a chau'r safle tu allan i oriau arferol ysgol.
• Gosod larymau lladron pan fo'r ysgol ar gau.
• Ceisio rhwystro tresmasi ar dir ac adeiladau'r ysgol.

Gwres, Golau a Gwasanaethau Mecanyddol
• Yn ystod cyfnodau twymo'r adeilad - sicrhau bod y system wresogi yn gweithio yn addas, delio ag unrhyw ddiffygion a welir i wresogyddion unigol neu i'r system wresogi yn gyffredinol, sicrhau fod y systemau twymo canolog wedi eu gosod yn briodol fel y bo'r tywydd yn mynnu.
• Sicrhau fod gwresogyddion ac yn y blaen yn glir o offer fyddai'n llosgi.
• Cadw golwg ar y defnydd o drydan, nwy a dŵr a nodi darlleniad mesuryddion yn fisol ar gardiau fel y gellir mesur y defnydd.
• Cadw ystafelloedd boiler ac offer cynhesu yn lân a thwt ac yn glir o offer fyddai' Sicrhau fod cyflenwad digonol o danwydd ar gael, gan hysbysu'r Rheolwr Busnes o'r angen i archebu tanwydd mewn amser rhesymol.
• Peipiau wedi rhewi : troi cyflenwad dwr i ffwrdd a hysbysu Adran Eiddo a Rheolwr Busnes o'r sefyllfa fel y gellir trefnu i atgyweirio.
• Boeleri : galw peirianwyr gwasanaethau allan mewn argyfwng. Dylid hysbysu'r Adran Eiddo a Rheolwr Busnes pan ddigwydd hyn.
• Systemau Dosbarthu Gwasanaeth : ailosod bracedau, peipiau a rheiddiaduron, glanhau offer cynhesu a hidlyddion.
• Cynnal, gwasanaethu ac ailosod larwm tân argyfwng, gan gynnwys ailosod gwydr mewn blychau.
• Bws Mini'r Ysgol : sicrhau bod y bws yn cael ei gadw'n lân ac mewn cyflwr priodol trwy gadw golwg wythnosol ar lefelau'r dŵr, olew, pwysau awyr y teiars, cyflwr cyffredinol y teiars a'r gwregysau diogelwch, ac arwyddo bod hyn wedi'i wneud.

Glanhau a Chynnal Allanol
• Yn ddyddiol clirio a glanhau pob man allanol dan do, cyntedd a llefydd chwarae caled, o offer a allai fod yn beryglus neu yn anharddu'r safle, e.e. caniau gwag, gwydr wedi torri a photeli.
• I gadw pob lle chwarae caled, ffyrdd, llefydd parcio, llwybr, corlannau, tanciau a photeli nwy ac yn y blaen yn glir o chwyn, cerrig rhydd, ysbwriel, e.e. gwydr, tuniau, poteli, papur, dail, gwellt ac ysbwriel arall. I glirio eira fel y bo angen a gwasgaru halen i sicrhau llwybrau clir a diogel tuag at yr adeilad yn ystod cyfnodau o eira neu rew.
• Gwagio biniau allanol i fagiau plastig fel y gellir eu gwaredu. Gosod bagiau plastig newydd. Cynnal a chadw biniau ag offer arall dal ysbwriel ac yn y blaen.
• Palu a chwynnu gwelyau blodau a llefydd eraill wedi'u plannu i sicrhau eu bod yn glir o chwyn. Bydd y tasgau yma yn cynnwys plannu, tocio a chynnal planhigion, llwyni a blodau yn gyffredinol.
• Gwaith glanhau lloriau ac ystafelloedd yn ôl y galw.
• Glanhau y tu allan i ffenestri allanol.
• Gwaith coed a metel allanol : cynnal arwyddion, giatiau ac offer allanol eraill.
• Offer dal ysbwriel mawr : gofalu eu bod yn cael eu clirio a'u gosod yn ôl yn y llefydd cywir. Hysbysu'r ymgymerwr lle i osod sgip a bod y sgip yn cael ei ddefnyddio'n briodol. Sicrhau fod sachau bin yn cael eu rhwymo'n briodol pan yn llawn.
• Draeniau prifion : sicrhau fod draeniau a chwterydd yn glir ac yn llifo'n rhydd.
• Atgyweirio a chynnal man ddifrod i ffensys.
• Cynnal a chadw llefydd chwarae caled, e.e. ail-osod slabiau palmant.

Dyletswyddau Cario
• Sicrhau fod cyflenwad digonol o dyweli papur, papur toiled a sebon yn y llefydd priodol drwy'r ysgol.
• Symud parseli, dodrefn mewn ystafelloedd a pharatoi'r neuadd ar gyfer gwasanaethau ac arholiadau.
• Derbyn nwyddau/dodrefn ac ati a archebir gan yr ysgol gan gyflenwyr, a'u rhannu i'r staff/ystafelloedd priodol, unwaith maen't wedi ei gwirio gan y Swyddog gweinyddol.

Cynnal a Chadw
• Adrodd i'r Pennaeth ar unrhyw ddifrod a welir i eiddo'r ysgol ac am nam i ddraeniau ac yn y blaen na all y gofalwr eu trin.
• Mân atgyweirio mewnol ac allanol i sicrhau edrychiad twt.
Ailosod plygiau, ffiwsys, bylbiau a thiwbiau trydan, lampau a gorchuddion goleuadau fel y bo angen.
Tynnu aer o reiddiaduron.
Gosod wasieri newydd fel y bo angen.
Offer toiledau : ailosod wasieri, plygiau a chadwyni.
Peipiau dwr wast : glanhau trapiau, peipiau dwr wast, carthffosiaeth.
Falfiau cawodydd : mân atgyweirio a thrwsio falfiau, trwsio neu ailosod tapiau ag offer cawodydd.
Nenfydau : ailosod teils nenfwd a mân atgyweirio plaster.
Paentio : paratoi a phaentio plaster mewnol, gwaith coed a dodrefn.
Platiau enw, bleindiau, llenni ac ati : atgyweirio, amnewid a glanhau arwyddion mewnol, traciau llenni a bleindiau.
Gosodion pren mewnol : atgyweirio a gosod unedau cegin, cadeiriau, byrddau a desgiau, cypyrddau, silffoedd, byrddau arddangos, meinciau, cownteri ac ati.
Offer mewnol : cynnal ac adnewyddu offer dal papur toiled, tyweli, drych ac offer ffenestri a drysau.
Gwydro : byrddio ffenestri dros dro pan fydd y gwydr wedi torri ac os yn bosibl ail-osod chwareli bychan o wydr.
Gorchuddion lloriau : atgyweirio gorchuddion lloriau a grisiau gan gynnwys sgertin, blaen grisiau, carped, gorchuddion thermoplastig ac ati.
Cynnal a chadw a glanhau trapiau, gwterydd a draeniau gan gynnwys rhodio. Bydd yn rhaid rhoi sylw arbennig i drapiau yn y labordai, gweithdai ac ystafelloedd Technoleg Bwyd.
I gadw trapiau, gwterydd, peipiau dwr glaw yn glir ac ailosod landerau a pheipiau.
• Yn achlysurol archwilio cyflwr dodrefn ac adrodd i'r Prifathro am unrhyw ddiffygion amlwg a welir.
• Gofalu fod offer ymladd tân yn y llefydd priodol fel y nodir gan y Prif Swyddog Tân. Hysbysu'r Prifathro os oes diffoddwyr tân wedi'u gollwng.

Arolygu
• Cadw manylion o fân atgyweiriadau sydd angen eu gwneud a'r contractwyr sy'n ymweld â'r ysgol.
• Cyfeirio gweithwyr ac ymgymerwyr â'r safle i'r llefydd gwaith.
• Gofalu fod offer a ddarperir ar gyfer gwaith gofalu a glanhau yn ymddangos yn ddiogel a hysbysu'r Prifathro o unrhyw ddiffygion a ddaw'n amlwg.

Argyfyngau
• Sicrhau mynediad i'r ysgol neu'r dosbarthiadau fel y bo angen mewn adegau o eira, llifogydd neu argyfyngau cyffelyb.
• Dilyn y drefn gydnabyddedig mewn achlysuron o dân, llifogydd, torri mewn, damweiniau neu ddifrod. Gwybod am leoliad offer a defnyddiau cymorth cyntaf, tapiau a llefydd troi cyflenwadau i ffwrdd.

Cyffredinol
• Ymgymryd â'r gwaith gan achosi cyn lleied ag sydd modd o drafferth i drefn yr ysgol a defnyddwyr gyda'r nos.
• Bod o gwmpas a chadw llygad ar ymddygiad plant yn gyffredinol gan adrodd i'r Pennaeth neu athrawon eraill os cyfyd problemau.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chyfarwyddyd a chais y Pennaeth neu ei gynrychiolydd.

Sylwch : Ni ddylid gweithio ar uchder uwch na 11 troedfedd uwchben y llawr oni fod offer dringo addas a diogel yn cael ei ddarparu.

Rheolwr Safle
• Cynghori'r Pennaeth ar bob agwedd yn ymwneud â'r adeiladau a'r tiroedd.
• Archwilio'r adeiladau'n gyson a nodi unrhyw ddiffygion a threfnu sylw buan i'w cywiro.
• Trefnu amcangyfrifon/tendrau ar gyfer gwaith gan adrodd ar y rhain i'r Rheolwr Busnes cyn ymrwymo i unrhyw waith.
• Cydlynu trefniadau cynnal a chadw'r adeilad a'r tiroedd gan oruchwylio gwaith contractwyr gyda chymorth y Clerc Gwaith.

Cyd-gysylltydd Iechyd a Diogelwch

• Cyflawni archwiliadau cyson yn unol â pholisi'r ysgol. Llunio adroddiadau ac argymhellion i'r Pennaeth.
• Hybysu adrannau perthnasol, staff cynnal a chadw mewnol neu adain Eiddo'r Cyngor fel bo'n briodol, er mwyn sicrhau y gweithredir ar y mater.
• Sicrhau fod y cyfarpar lladd tân yn ei le ac wedi'i gyflenwi'n briodol, cyflawni ymarferion tân yn rheolaidd ac o leiaf unwaith y tymor.
• Sicrhau fod trefniadaeth ddiogelwch yr ysgol, trefniadau goruchwylio, archwiliadau cyfnodol neu brofion o systemau diogelwch yn gweithio ac yn effeithiol.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi