MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: TPS \/ UPS + SEN
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: TPS \/ UPS + SEN
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .Mae Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen yn darparu addysg ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n profi anawsterau emosiynol, cymdeithasol a/neu ymddygiadol, y rheiny sydd wedi'u gwahardd yn barhaol neu sy'n aros am symudiad a reolir, neu'r rheiny y mae eu hanghenion emosiynol neu feddygol yn eu hatal dros dro rhag mynychu'r ysgol.
Nod Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hawliau drwy gydol eu 'ffenestri trawma' perthnasol. Rydym yn cadw cysylltiadau da gydag ysgolion prif ffrwd, a'n nod yw cynnwys disgyblion unwaith eto mewn lleoliadau prif ffrwd neu fwy priodol, o fewn amserlenni realistig lle bynnag y bo modd.
Rydym yn dymuno penodi athro profiadol (llawn-amser) sy'n hyderus i gyflwyno Mathemateg ar draws CA3 a CA4. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth dda o'r Cwricwlwm i Gymru a bydd yn barod i arwain datblygiad Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn athro profiadol a chreadigol sydd â phrofiad blaenorol o ddarparu ystod o lwybrau cymwysterau. Bydd ganddynt ymarfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth a byddant wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol parhaus.
Mae cyfnod llwyddiannus yn addysgu mewn ystafell ddosbarth a phrofiad o weithio ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc sy'n profi anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol, hefyd yn ddymunol.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Sarah Pugh (Pennaeth) neu Rhyanon Griffiths (Dirprwy Bennaeth) trwy'r cyfeiriad e-bost canlynol: contact@torfaenpru.schoolsedu.org.uk
Mae'r swydd hon yn amodol ar Gais am Ddatgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ar gyfer y swydd hon mae'n ofynnol cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.