MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £26,403 Pro Rata | Hourly rate: £13.69 | Grade 3
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Gweithiwr Gofal Plant Cynorthwyol - Blynyddoedd Cynnar
Torfaen Local Authority
Cyflog: £26,403 Pro Rata | Hourly rate: £13.69 | Grade 3
10 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddynCyfnod Penodol Hyd Nes 31 Mawrth 2027
Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen wedi'i thargedu ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar gan Lywodraeth Cymru, i deuluoedd â phlant o dan 4 oed sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Daw elfennau craidd y rhaglen o ddewis o opsiynau y dangoswyd eu bod yn dylanwadu ar ganlyniadau cadarnhaol i blant a'u teuluoedd. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Gofal plant rhan-amser am ddim i blant 2 i 3 oed;
- Gwasanaeth Ymwelydd Iechyd gwell;
- Mynediad at Gymorth Rhianta;
- Datblygiad Iaith Gynnar
Mae'r Tîm Blynyddoedd Cynnar yn chwilio am Weithiwr Gofal Plant Cynorthwyol cymwys, profiadol a brwdfrydig ar gyfer darpariaeth gofal plant y Blynyddoedd Cynnar Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw, sef lleoliad cyfrwng Cymraeg sydd wedi'i leoli ar safle Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
Fe fyddwch yn gyfrifol am gynorthwyo'r Goruchwylydd Gofal Plant i gynnig darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel amser cinio. Rhaid i chi fod â phrofiad o weithio gyda phlant a dealltwriaeth am sut i roi cymorth priodol yn ystod trefniadau amser cinio. Mae hyn yn cynnwys bwydo plant, paratoi poteli, cynnal glendid ardal y gegin, cefnogi babanod gyda'u harferion cysgu, a'u cael i gymryd rhan mewn chwarae sy'n briodol i'w hoedran.
Rhaid bod gan ddeiliad y swydd gymhwyster perthnasol yn y Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant, er enghraifft NVQ Lefel 2 neu'r cywerth.
Byddai'r gallu i siarad Cymraeg ar lefel sylfaenol yn fanteisiol, neu barodrwydd i ddysgu.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, mae croeso i chi gysylltu ag Emma Edwards ar 07940792823.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.