MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Adran Cymraeg

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL Y MOELWYN, BLAENAU FFESTINIOG

(Cyfun 11 - 16; 335 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 28 o EBRILL 2025

PENNAETH ADRAN CYMRAEG CA3 a 4

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Yn dilyn dyrchafiad deilydd presesnnol y swydd oddi-mewn i'r Ysgol, 'rydym yn chwilio am Bennaeth Adran Cymraeg erbyn Ebrill 2025

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) ynghyd a lwfans CAD2 (£5,747) y flwyddyn i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i pholisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Eleri Moss rhif ffôn 01766 830435, e-bost:-

pennaeth@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Mena Price, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3DW, (Rhif ffôn 01766 830435,) e-bost: sg@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 12:00Y.H, DYDD GWENER, 17 IONAWR, 2025.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi