MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 23,656 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Chwarae - Ysgol Gynradd Penllwyn

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 23,656 *

Ynglŷn â'r rôl
Mae Corff Llywodraethol Ffederaliaeth Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a gofalgar i gynnal ein darpariaeth ar ôl ysgol.

Pwrpas y swydd:

Cynorthwyo i drefnu'r ddarpariaeth arôl Ysgol yn Ysgol Gymunedol Penllwyn o ddydd i ddydd, gan ddarparu safonau uchel o ofal a chyfleoedd chwarae i blant rhwng 4 ac 11 oed mewn amgylchedd diogel a sicr.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:

Darparu darpariaeth ar ôl ysgol:
  • cynnal amgylchedd chwarae diogel ac ysgogol a chynorthwyo gyda datblygu cyfleoedd sy'n annog datblygiad cymdeithasol, corfforol, deallusol, creadigol ac emosiynol plant trwy chwarae
  • bod yn gyfrifol i oruchwyliwr y clwb ac i'r Pennaeth
  • sicrhau bod y ddarpariaeth yn cynnig amgylchedd chwarae diogel a chyffrous
  • cynorthwyo gyda chynllunio, paratoi a darparu gweithgareddau sy'n diwallu anghenion datblygu unigol plant
  • gweithio wyneb yn wyneb gyda'r plant sydd wedi'u cofrestru gyda'r clwb
  • i oruchwylio lluniaeth amser te i'r plant
  • dilyn canllawiau a gweithdrefnau Diogelu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Ffederaliaeth Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn
  • cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill a fydd yn cael eu gweld yn gwella gwaith y Clwb ar ôl Ysgol
    Byddai cymhwyster arweinydd chwarae a'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau cymhwyster diogelu lefel 1.

    Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

    I gael trafodaeth gyda'r Pennaeth, Ms Catryn Lawrence, ffoniwch 01970 880277 neu e-bostiwch: prif@penllwyn.creedigion.sch.uk

    Rhestr Fer: 13 Rhagfyr 2024

    Cyfweliadau: 18 Rhagfyr 2024 yn y bore

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
    Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
    • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
    • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
    • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
    • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
    • Derbyniadau Ysgol
    • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
    • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
    • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
    • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
    Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
    Darllen mwy