MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Y Garnedd, Bangor,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
Yn eisiau mor fuan a phosib
Cymhorthydd Cyffredinol Cegin Ysgol Garnedd Bangor
I paratoi a gweini'r bwyd, a dyletswyddau cyffredinol y gegin 11.25 awr yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol
GS1 pwynt 2 £12.26 yr awr / (£10.26 wedi ei gyfartalu)
Cyflog wythnosol - £115.43
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus a byddwch yn derbyn e-bost gan 'noreply@employmentcheck.org.uk' i cwblhau ffurflen DBS ar lein.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu Saesneg a bydd ceisiadau yn cael ei drin yn gwbl gyfartal.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Dyddiad Cau: 23/12/2024
Ffurflenni cais oddi wrth ac i'w dychwelyd i: Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Caernarfon. Rhif Ffôn 01286 679076
Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .
Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
-
Dymunol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm (Tîm Ysgol a Thîm Cegin)
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster Glendid Bwyd Sylfaenol neu ymrwymiad i basio'r cwrs ymhen 3 mis o'r apwyntiad.
Dymunol
Hyfforddiant mewn sgiliau coginio a gweini bwyd
Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Hyfforddiant mewn sgiliau marchnata
Profiad perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Profiad o weithio mewn cegin
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
-
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• I gynorthwyo'r Cogydd â Gofal mewn paratoi bwyd syml, gweini bwyd, gosod y ffreutur a chlirio ar ôl cinio. Golchi offer a glanweithdra'r gegin.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Offer
Prif ddyletswyddau
• Gweithio dan gyfarwyddid y Cogydd â Gofal neu'r Dirpwy.
• Yn cynorthwyo mewn paratoi a gweini'r bwyd gan gynnwys coginio syml.
• Yn cadw holl adeiladau ag offer y gegin yn lân, gan gynnwys y ffreutur pan ddefnyddir yr ystafell honno fel ystafell fwyta yn unig.
• Pan ddefnyddir y ffreutur at fwy nag un pwrpas, glanhau'r llawr, symud pob tamaid o fwyd gan ddefnyddio mop tamp os bydd angen.
• Yn gwneud dyletswyddau cyffredinol yn y gegin a'r ffreutur, megis golchi llestri, gosod a chlirio dodrefn yn y ffreutur.
• Lle na bo Cogydd Cynorthwyol bydd y Cymhorthydd Cyffredinol yn cymryd gofal o'r gegin yn ystod absenoldeb y Cogydd ond am y tâl priodol.
• Cynnal safon uchel o lendid personol a gwisgo gwisg cegin lân briodol.
• Cydymffurfio a pholisiau Iechyd a Dioglewch a Diogelwch Bwyd Cyngor Gwynedd.
• Yn cyflawni unrhyw ddyletswyddau perthnasol yn ôl cais rhesymol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
• Bydd amgylchiadau yn codi yn gofyn i'r unigolyn weithio i baratoi lluniaeth tu allan i oriau gwaith arferol e.e diwrnod hyfforddiant mewn swydd.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi