MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £30,908 Codiad cyflog i ddod - £34,832 Codiad cyflog i ddod
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £30,908 Codiad cyflog i ddod - £34,832 Codiad cyflog i ddod
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Darlithydd / Aseswr mewn Trin Gwallt
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Cyfnod Penodol (tan Ionawr 2026), Rhan amser 0.41 FTE ar gyfer rôl Darlithydd. & 0.58 FTE ar gyfer rôl Aseswr
Gyflog: Darlithydd £32,304 - £49,934 ac Aseswr £32,608 - £36,748 (Pro Rata)
Mae Coleg Cambria nawr yn recriwtio ar gyfer Darlithydd / Aseswr mewn Trin Gwallt i ymuno â'n tîm Gwallt a Harddwch ar ein safle yn Iâl ar gontract tymor gosod tan ddiwedd Ionawr 2026
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu ein dysgwyr lefel 2 a 3 yn ôl yr amserlen, gan gynnwys paratoi deunyddiau dysgu, a marcio gwaith myfyrwyr. Byddant hefyd yn darparu arweiniad a chefnogaeth addysgol i bob myfyriwr ac yn gweithredu fel tiwtor personol pan fo angen.
Fel Aseswr yng Ngholeg Cambria byddwch yn gyfrifol am asesu ystod o gymwysterau hyd at Lefel 4. Bydd hyn yn cynnwys monitro cynnydd ymgeiswyr tuag at eu cymwysterau, rhoi adborth adeiladol iddynt a'u helpu i baratoi eu portffolios tystiolaeth.
Bydd y cyflog yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad. (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP1 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Sbin Gyflog Uwch)
Gofynion Hanfodol
- O leiaf cymhwyster addysgu Lefel 5 (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5
- Cymhwyster proffesiynol perthnasol ar o leiaf Lefel 4 neu gyfwerth.
- Meddu ar neu fod yn barod i weithio tuag at gymhwyster aseswr (TAQA).
- Meddu ar neu fod yn gweithio tuag at Wobr Dilyswyr.
- Dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol o fewn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath
- Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gefnogi'r anghenion hyn o fewn amgylchedd dysgu
- Profiad profedig yn y diwydiant o fewn maes proffesiynol perthnasol.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol/hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai