MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans AAA (£2,585)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dosbarth Athrawon Cymorth Dysgu (ACEY) yn Ysgol Nantgwyn

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans AAA (£2,585)

Dosbarth Athrawon Cymorth Dysgu (ACEY) yn Ysgol Nantgwyn

Disgrifiad Swydd
Dosbarth Athrawon Cymorth Dysgu (Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol) yn Ysgol Nantgwyn

Oriau: 32.5

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans AAA (£2,585)

Mae'r swydd hon yn cynnwys lwfans recriwtio o £3,000 bydd rhagor o fanylion am hyn yn cael eu rhannu yn ystod cam cyfweld y broses ddethol.

Dyddiad Dechrau: Ebrill 2025 neu'n gynharach os yn bosibl.

Hoffai Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf benodi athro dosbarth cynnal dysgu, i ddechrau adeg Pasg 2025 neu cyn hynny os oes modd. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cymwysterau a'r profiad priodol i roi cymorth i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol mewn dosbarth cynnal dysgu yn Ysgol Nantgwyn.

Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i hyd at ddeuddeg o ddisgyblion 11-16 oed.

Mae’r ddarpariaeth yma'n rhoi cymorth i ddisgyblion sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol yn bennaf, efallai y bydd gan rai disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) eraill ar y cyd â’r rhain. Bydd y dosbarth yn cael ei staffio gan athro a 2 Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu sy'n cynorthwyo â gweithgareddau dysgu a chynhwysiant y disgyblion yn y brif ffrwd. Yn ddelfrydol, bydd gyda'r ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag ADY, gan gynnwys Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol. Bydd wedi ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol arbenigol perthnasol yn unol â gofynion yr Awdurdod Lleol.

Mae lwfans recriwtio o £3,000 ynghlwm âr swydd yma, bydd rhagor o fanylion am hyn yn cael eu rhannu yn ystod y broses gyfweld.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Michael Condon yng Nghanolfan Arloesi y Cymoedd, Aberpennar CF45 4SN, ffoniwch rhif 01443 744398 neu Michael.Condon@rctcbc.gov.uk.

Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Canol Nos ar 12 Rhagfyr 2024.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.