MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 Dros Dro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gymunedol Lôn Barcas
Wrecsam
LL13 9UN
Ffôn: 01978 357754
E-bost: mailbox@barkerslane-pri.wrexham.sch.uk
Pennaeth: Mrs Chris Edwards

G04 - £16,773 - £17,039 y flwyddyn
30 awr yr wythnos
Dros dro tan 31/8/2025
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 i weithio dan gyfarwyddyd/arweiniad y staff addysgu/staff uwch, i gyflawni rhaglenni gwaith/gofal/cymorth, i ganiatáu mynediad i ddisgyblion at ddysgu a chynorthwyo'r athro/athrawes i reoli'r disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Gallai'r gwaith gael ei wneud yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan i'r brif ardal addysgu.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif ffôn uchod.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.
mailbox@barkerslane-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU:- 13 Rhagfyr am HANNER DYDD
ARSYLWADAU / CYFWELIADAU: w.c. 16 Rhagfyr