MANYLION
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Golwg Pen y Fan)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Golwg Pen y Fan)Swydd-ddisgrifiad
Ysgol Golwg Pen y Fan, Campws Babanod Mount Street
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 - Arbennig
30 awr yr Wythnos / 39 wythnos y flwyddyn (ynghyd â hawl gwyliau)
Ei angen/ei hangen cyn gynted â phosibl - cyfnod penodol tan ddiwedd Awst 2026 i ddechrau
Rydym yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu arbennig Lefel 1 contract cyfnod penodol. Mae'r swydd am 30 awr yr wythnos yn ystod y tymor ysgol yn unig: dydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd angen i chi fod â chymwysterau addas ag o leiaf TGAU mewn Saesneg a Mathemateg; mae angen i chi fod yn ymroddedig i'ch datblygiad proffesiynol eich hun a bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol arall, gan arwain at NVQ 2 yn ddelfrydol.
Byddai profiad presennol o weithio gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig o fantais. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm yr ysgol, gan weithio dan oruchwyliaeth gyffredinol yr athro dosbarth, gyda disgybl unigol neu grwpiau yn y cyfnod sylfaen.
Bydd y rôl hon yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar Gampws Babanod Mount Street, Ysgol Golwg Pen y Fan.
Bydd y cynorthwyydd addysgu yn cefnogi'r athrawon dosbarth ac yn cefnogi dysgu a lles disgyblion neu grwpiau unigol; gallent ddarparu gofal priodol i'r rhai sy'n dibynnu'n bersonol ar
oedolion am eu hanghenion sylfaenol. Gall hyn gynnwys diwallu eu hanghenion wrth fynd i'r toiled a chodi a chario cysylltiedig. Mae angen agwedd ymroddedig a hyblyg ar gyfer y swydd
gan fod lles ein holl ddisgyblion yn bwysig iawn. Gallwch ymgeisio am y swydd hon ar-lein yn www.powys.gov.uk neu gallwch ofyn am ffurflen gais gan Gyngor Sir Powys.
Dyddiad cau: 9 Rhagfyr 2024
Cyfweliadau: wythnos yn dechrau: 16 Rhagfyr 2024
Mae'r swyddi'n amodol ar gwblhau'r gwiriadau diogelu canlynol yn foddhaol:
● Geirda
● Cais y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
● Copïau o gymwysterau
● Cofrestru â'r CGA