MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Bro Tryweryn, Y Bala,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £13,881 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £13,881 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Yn eisiau mor fuan a phosib - Wanted as soon as possible
Cogydd a Gofal Ysgol Bro Tryweryn
Cook in Charge Bro Tryweryn School
I paratoi a gweini'r bwyd, a dyletswyddau
cyffredinol y gegin 22.5 awr yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol
To prepare and serve the food, and general kitchen duties 22.5 hour a week during the school term
GS4 7-11 £13.26 - £14.13 yr awr £11.10 - £11.83 wedi ei gyfartalu)
Cyflog wythnosol - £249.75 - £266.17
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus a byddwch yn derbyn e-bost gan 'noreply@employmentcheck.org.uk' i cwblhau ffurflen DBS ar lein. / The Council will request a Criminal Records Bureau disclosure for the successful applicant and you will receive an email from ' to complete a DBS form online.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person / The applicant will be expected to reach the linguistic level noted as one of the essential skills in the Person Specification.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu Saesneg a bydd ceisiadau yn cael ei drin yn gwbl gyfartal / We welcome applications in Welsh and English and applications will be treated completely equally.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this comitment
Dyddiad Cau / Closing Date: 10/12/2024
Ffurflenni cais oddi wrth ac i'w dychwelyd i / Application forms from and to be returned to: Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Caernarfon. Rhif Ffôn / Telephone number 01286 679076
Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm (Tîm Ysgol a Thîm Cegin)
Dim hanes o afiechyd sy'n gysylltiedig â bwyd (gweler Holiadur ar Tud D-7 o Lawlyfr y Gegin)
Dymunol
Hunan ysgogol, personoliaeth hapus
Gwybodaeth o fwyd iach a maethlon
Bod yn gymdeithasol a dangos parch tuag at eraill
Ymddangosiad glân a thaclus
Safon dda o lendid personol
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster Glendid Bwyd Sylfaenol
Cymhwyster diet a maeth neu ymrwymiad i basio cwrs Lefel 2 o fewn 3 mis o'r penodiad
Dymunol
Cymhwyster goruchwylio staff
Cymhwyster coginio
Hyfforddiant mewn sgiliau coginio
Hyfforddiant mewn sgiliau gweini bwyd
Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu gymorth cyntaf
Hyfforddiant mewn sgiliau marchnata
Trwydded gyrru llawn
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o weithio mewn cegin fasnachol neu gegin debyg i gegin ysgol
Dymunol
Profiad o weithio mewn amgylchedd cynhyrchu bwyd
Profiad o gynllunio bwydlen, paratoi ryseitiau ac archebu bwyd
Profiad o gofnodi ac adrodd ar gostau arlwyo
Profiad o weithio yn unol â systemau sicrwydd ansawdd
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Profiad o weithio fel rhan o dîm a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol mewn grŵp.
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Paratoi bwyd, arolygu a gweinyddu mewn cegin yn paratoi a gweini bwyd. Anwytho a hyfforddi staff cegin.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllid
• Staff
• Offer
Prif ddyletswyddau
• Darparu bwyd - gan gynnwys cynllunio bwydlen, archebu bwyd, rheoli maint prydau, paratoi bwydydd a choginio.
• Cydymffurfio o ddydd i ddydd a gofynion Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Bwyd sy'n effeithio ar staff, a phobl eraill a all fod yn defnyddio neu ymweld â'r safle.
• Sicrhau fod holl staff Arlwyo yn dilyn arferion gwaith da ac y cedwi'r at ofynion unrhyw Ddarpariaeth Statudol a pholisiau Cyngor Gwynedd.
• Trefnu ag arolygu'r gwasanaeth bwyd, yn cynnwys gweini'r bwyd.
• Arolygu staff y gegin. Pennu dyletswyddau, trefniadau gwaith a hyfforddiant.
• Sicrhau fod pob aelod o staff y gegin wedi derbyn hyfforddiant anwytho, Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Bwyd cyn cychwyn gwaith.
• Arolygu a rheoli glanweithdra, iechyd a diogelwch.
• Diogelwch y gegin a'i chyffiniau drwy gloi ac agor y gegin.
• Sicrhau bod offer yn cael ei gynnal a'i gadw.
• Dyletswyddau clercyddol (e.e. archebu cyflenwadau, cadw cyfrif stoc bwyd, llenwi ffurflenni adrodd misol, sicrhau fod y llyfr cofnodion y gegin wedi ei gwblhau bob dydd).
• Unrhyw ddyletswydd arall yn ôl cais rhesymol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol âr cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol âr Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Bydd amgylchiadau yn codi yn gofyn am baratoi lluniaeth tu allan i oriau gwaith e.e. cyfarfod athrawon, hyfforddiant mewn swydd.
• Bydd disgwyliad cyd weithio gyda threfniadau argyfwng Cyngor Gwynedd i fwydo pobl mewn argyfwng ac i symud i gegin arall i helpu allan mewn argyfwng.
• I symud i geginau eraill lle mae angen cymorth.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi