MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 7 - £31,067 - £34,314 pro rata
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cwnselydd Ysgol

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 7 - £31,067 - £34,314 pro rata

Ar hyn o bryd, mae gennym dwy swydd benagored am 13 awr yr wythnos yr un, yn ystod y tymor yn unig. Caiff yr oriau gwaith eu rhannu dros ddau ddiwrnod. Byddem yn ystyried un swydd, yn gweithio dros bedwar diwrnod.

Gradd 7 - £31,067.00 am 13 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £9,588.00 pro rata.

Bydd gofyn i chi ddarparu cymorth cwnsela yn yr ysgol i blant a phobl ifanc yn Sir Benfro.

Er mwyn sicrhau bod cwnselwyr yn bodloni safonau ansawdd cydnabyddedig, mae angen i ddeiliaid swyddi gofrestru gyda Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, ac rydym hefyd yn annog achrediad gan y gymdeithas honno.

Bydd disgwyl i chi fod â chymhwyster Lefel 4 mewn cwnsela, ac yn ddelfrydol byddwch yn meddu ar dystiolaeth o gymwysterau proffesiynol ychwanegol. Byddwch yn darparu cymorth cwnsela therapiwtig un i un yn yr ysgol, yn bennaf i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau ysgol, ac yn achlysurol ar sail beripatetig ledled Sir Benfro.

Byddwch yn dod yn aelod o dîm deinamig a phrofiadol sy'n darparu asesiadau cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn ogystal â hyn, byddwch yn gweithredu mewn rôl ymgynghorol, gan gynnig cyfarwyddyd i weithwyr proffesiynol eraill i'w galluogi i nodi anawsterau iechyd a lles emosiynol dysgwyr er mwyn eu cefnogi'n well.

Yn bennaf, mae'r swydd yn golygu y byddwch yn gweithio ar eich pen eich hun o fewn amgylchedd yr ysgol. Cewch eich cefnogi'n dda trwy gefnogaeth cyfoedion, cyfarfodydd tîm rheolaidd, a goruchwyliaeth unigol a grŵp. Bydd yr arweinydd cwnsela ar gyfer ysgolion wrth law i helpu i nodi a chynnig unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen drwy gydol eich amser gyda'r gwasanaeth.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.