MANYLION
- Lleoliad: Caernarfon,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £58,348 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £58,348 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Byddwn yn derbyn ceisiadau gan Seicolegwyr dan Hyfforddiant sy'n cymhwyso haf 2025 ar yr amod o dderbyn cymhwyster DEdPsych
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Siwan Elenid Glyn ar elenidglyn@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau - 18/12/2024.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O'R GLOCH, DYDD GWENER, 06/12/2024.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Bod yn hyddysg yng ngweledigaeth Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
• Bod yn berchen ar weledigaeth ynghylch rôl y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol o fewn Tîm Integredig ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
o Yn medru cyfleu'r weledigaeth hon i eraill
o Yn medru ei throsi'n gyfres o nodau er mwyn cyfrannu oddi i gynllun datblygu hyfyw
• Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol
• Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
• Y gallu i weithio dan bwysau a chyfarfod â therfynau amser
• Y gallu i feddwl a gweithio yn greadigol a systemig
• Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth
DYMUNOL
•
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Cymhwyster lefel gradd mewn Seicoleg
• Gradd uwch mewn Seicoleg Addysgol
• Yn gymwys i gofrestru fel Seicolegydd Addysg Rheoledig Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
DYMUNOL
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad o weithio fel Seicolegydd Addysgol/Seicolegydd Addysgol o dan Hyfforddiant
• Profiad o weithio gyda plant a phobl ifanc mewn lleoliad addysgol
DYMUNOL
• Profiad o arwain prosiectau
• Profiad o gynnal hyfforddiant
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr am ddatblygiadau diweddar ym maes Seicoleg Addysgol
• Y gallu i gymryd rhan allwedol oddi mewn i rwydweithiau gwasanaeth i blant a'u teuluoedd.
• Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Mô Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer
• Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
• Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
DYMUNOL
• Arbenigedd mewn meysydd penodol
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Hyrwyddo arfer dda trwy ddefnyddio gwybodaeth a thechnegau seicolegol.
• Cynorthwyo gyda rôl strategol ar ran yr A.Ll. mewn maes/meysydd sydd yn cyd-fynd â strategaeth ADY a chynhwysiad, a Strategaeth Addysg Awdurdodau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo'r Uwch Seicolegwyr Arbenigol/ Prif Seicolegydd/Swyddogion Ansawdd ADYaCh Ardal i:
• Ddatblygu ac adolygu rhaglen Hyfforddiant Mewn Swydd ar gyfer staff ysgolion, rhieni ac aelodau o'r Tîm Integredig mewn maes/meysydd anhawsterau dysgu amrywiol, lles emosiynnol, iechyd meddwl, ymyrraethau ysgol gyfan/grŵp/ unigolion, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid perthnasol.
• Paratoi a chyflwyno hyfforddiant yn y maes/meysydd hynny pan yn briodol ar lefel ysgol, ardal neu awdurdod.
• Datblygu a hybu defnydd o Feini Prawf addas ar gyfer y maes/meysydd hwn.
• Cymryd rôl strategol o fewn y Fforymau ADYaCh.
• Sicrhau fod ymyraethau sydd yn cael eu cynnig yn y maes/meysydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
• Cynllunio, monitro ac adolygu ymyraethau effeithiol ar gyfer y disgyblion unigol.
• Cyfrannu at y dystiolaeth sydd ar gael yn y maes/meysydd yma.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb am gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, canolfannau a rhieni
• Gliniadur a ffôn symudol
Prif ddyletswyddau
• Ymgymryd â gwaith ymgynghorol o fewn ysgolion, mewn rhan diffiniedig o'r Sir ac o fewn ardal, gan sicrhau fod y gwasanaethau a'r asiantaethau sydd yn cynorthwyo'r plant, eu hysgolion a'u rhieni, yn derbyn gwybodaeth a chyngor priodol. Gall y diriogaeth amrywio yn ôl gofynion y gwasanaeth.
• Cyfrannu i effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a Gwasanaeth Integredig yr A.Ll. yn ôl dangosyddion effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr A.Ll.
• dyletswyddau statudol yn ôl Cod Ymarfer Cymru a gweithredu polisïau a phrosesau statudol ac eraill yr A.Ll.
• Darparu Gwasanaeth rheolaidd o ymgynghori i ysgolion, trwy weithio o fewn y Tîm Integredig mewn ardal benodedig, a fydd yn nodi'r mathau o gynhaliaeth a gynigir oddi mewn i'r adnoddau staffio sydd yn bodoli.
• Cydweithio gyda rhieni/athrawon a disgyblion er mwyn darganfod pa fath o ymyrraeth sydd yn fwyaf effeithiol ar gyfer yr angen. Darparu rhannau o'r ymyrraeth yma yn uniongyrchol pe byddai'n addas (e.e. gwaith therapiwtig neu asesu unigol).
• Gweithio yn agos gyda'r Prif Seicolegydd Addysgol ac Uwch Seicolegwyr mewn maes/meysydd arbenigol yn unol â'r galw a'r rôl strategol o fewn y Tîm Integredig.
• Cydweithio agos gyda'r Swyddog Ansawdd ADYaCh yn yr Ardal er mwyn rhannu gwybodaeth, arferion da a chynnydd.
• Cynorthwyo ysgolion i ddiwallu anghenion addysgol y disgyblion a gyfeirir trwy ddull ymgynghorol a hwyluso cynllunio sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
• hyfforddiant proffesiynol pellach a fydd yn angenrheidiol i weithrediad effeithlon ac effeithiol y Gwasanaeth yn unol â Chynllun Datblygiad Proffesiynol er mwyn sicrhau fod y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig yn cyrraedd safonau'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
• Cyfrannu yn strategol a gweithredol i brosiectau penodol sydd yn cael eu sefydlu gan yr A.Ll.
• Cydweithio mewn modd integredig gyda gwasanaethau eraill o fewn yr A.Ll. a chysylltu â chydweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill yn unol âr anghenion a'r ymarfer yn yr Awdurdod Addysg.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill ar gais Rheolwyr sy'n briodol i lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyffredinol
• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol âr cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol âr Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• -
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi