MANYLION
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: £30,742 - £47,340
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Pay Scale Within: £30,742 - £47,340
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton yn chwilio am athro cynradd llwyddiannus llawn amser gyda phrofiad rhagorol o fabanod (3 - 7 oed). Mae hwn yn gyfle gwych i ymarferydd uchelgeisiol, brwdfrydig a myfyriol, sydd ag ymrwymiad cryf tuag at ddatblygiad plant a gwella a rhagori mewn addysgu ar gyfer ein disgyblion babanod.Byddwch yn ymuno â ni ar adeg o ddatblygiad cyffrous yma yn Fenton, gan ein bod wedi dechrau cyfeiriad newydd gyda'n cwricwlwm a'n dulliau o addysgu a dysgu a ddefnyddir yn yr ysgol yn dilyn ein harolygiad Estyn. Bydd yr ymgeisydd newydd yn ymuno â ni ar ein taith o wella ac yn cael cyfleoedd cyfoethog ar gyfer datblygiad proffesiynol
Mae ein hysgol yn ysgol gyfeillgar a chroesawgar, wedi ymrwymo i ofal rhagorol i'n disgyblion a datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i'n staff. Bydd gennych y manteision uniongyrchol o ymuno â thîm staff ymroddedig, cydweithredol a chyfeillgar, sydd wedi ymrwymo'n llwyr i adeiladu a gweithredu gweledigaeth gyffrous y genhadaeth genedlaethol a'r Cwricwlwm i Gymru gyda'n disgyblion babanod.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n cwrdd â'r fanyleb person yn y disgrifiad swydd ac sydd:
- yn ymarferydd cynradd o ansawdd uchel gyda phrofiad llwyddiannus o addysgu disgyblion o'r dosbarth meithrin - blwyddyn 2 ac mae ganddo disgwyliadau uchel ar gyfer disgyblion
- Profiad llwyddiannus o wella sgiliau a phrofiadau disgyblion yn yr awyr agored
- Yn angerddol ac yn wybodus am ddysgu a datblygiad disgyblion, ac yn cymhwyso'r wybodaeth honno yn yr ystafell ddosbarth i sicrhau'r cynnydd gorau posibl i bob dysgwr
- gyda wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o addysgeg, ac mae'n ymwneud â'r profiadau dysgu sy'n ganolog i ddiwygio'r cwricwlwm presennol.
Cysylltwch â Gareth Thomas, Pennaeth Gweithredol ar 01437 765378 os hoffech drafod y swydd wag neu ymweld â'r ysgol.
Dyddiad cau: 28 Tachwedd 2024
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.