MANYLION
- Lleoliad: Penmorfa, Aberaeron,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 25,584 - 26,835 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: 25,584 - 26,835 *
Ynglŷn â'r rôlRydym am recriwtio cynorthwyydd cymorth therapi iaith a lleferydd (SALTSA) i ymuno â'r tîm ADY yn barhaol am 34 awr yr wythnos.
Bydd y rôl yn cynnwys darparu sesiynau therapi iaith a lleferydd i ddisgyblion unigol o dan arweiniad y Therapydd Iaith a Lleferydd yn ystod amseroedd tymor ysgol yn unig. Rhagwelir y bydd y sesiynau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn bennaf yn ysgolion cynradd Ceredigion.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
- ymweld a disgyblion ysgolion Ceredigion
- darparu cefnogaeth unigol i ddisgyblion penodol ag anawsterau lleferydd ac iaith
- defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol i ddarparu cefnogaeth allgymorth i ddisgyblion ag anawsterau lleferydd ac iaith
- sefydlu perthnasoedd adeiladol gyda'r disgyblion a rhyngweithio â nhw yn unol ag anghenion unigol
- sefydlu perthnasoedd adeiladol gyda rhieni/gofalwyr
- rhoi adborth manwl a rheolaidd i'r athro a therapydd lleferydd ac iaith ar gyflawniad, cynnydd, problemau ac ati disgyblion
- paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau i atgyfnerthu rhaglenni Therapi Lleferydd ac Iaith
- mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd a hyfforddiant perthnasol a gweithgareddau dysgu eraill a datblygu perfformiad yn ôl yr angen
Rydym am recriwtio unigolyn sydd â:
- phrofiad o weithio gyda phlant oed cynradd neu ofalu amdanynt
- sgiliau TGCh effeithiol i gefnogi'r dysgu
- y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a mynd ati i chwilio am gyfleoedd dysgu
- y gallu i gysylltu'n dda gyda phlant ac oedolion
- y gallu i weithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall rolau a chyfrifoldebau a'ch safle eich hun yn y rhain
- y gallu i deithio'n annibynnol
- y gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg ar lafar
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Cathrin Edwards: Cathrin.edwards@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy