MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £27,269 i £28,624 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.13 i £ 14.83 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 (Arbennig) Ysgol Yr Archddiacon Griffiths

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £27,269 i £28,624 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.13 i £ 14.83 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 (Arbennig) Ysgol Yr Archddiacon Griffiths
Swydd-ddisgrifiad
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Archddiacon Griffiths CI
Llyswen, Aberhonddu, Powys, LD30YB
Ffôn: 01874 754334
Ebost: [email protected]
Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig)
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Archddiacon Griffiths yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu profiadol, hyblyg a gweithgar i weithio'n bennaf gyda disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
• Dydd Llun - Gwener; 9.00am - 3.30pm (Yn ystod y Tymor)
• Oriau: 27.5 awr yr wythnos
• Graddfa 6, SCP 14
Rydym yn chwilio am ymarferydd profiadol sy'n gallu:
• Defnyddio sgiliau / hyfforddiant / profiadol arbenigol (cwricwlaidd/addysgu) er mwyn cefnogi disgyblion e.e. ar gyfer Dyslecsia - rhaglen Dyslecsia Alpha - Omega; ar gyfer anawsterau lleferydd ac iaith - rhaglen Elklan, defnyddio cymhorthion cyfathrebu cryfhaol amgen
• Hyrwyddo cynhwysiant a derbyniad pob disgybl, eu hannog i ryngweithio a chydweithio ac ymgysylltu â gweithgareddau.
• Hyrwyddo annibyniaeth a datblygu hunan-barch
• Cynorthwyo wrth ddatblygu a gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol
• Defnyddio sgiliau / gwybodaeth / hyfforddiant arbenigol, darparu cymorth mewn meysydd arbenigol
• Gweithio gyda phlant/disgyblion sydd ag anghenion cymhleth, monitro a darparu ar gyfer eu gofal cyffredinol, diogelwch a lles, gan gynnwys tasgau sy'n gysylltiedig â'u cynhwysiant cymdeithasol a darparu ar gyfer eu hanghenion personol, corfforol a gofal iechyd.
Yn ei dro, gallwn gynnig:
➢ Ysgol hapus gyda dyheadau uchel ar gyfer pob plentyn.
➢ Ymrwymiad cadarn i ddatblygiad proffesiynol yn unol â safonau dysgu ac arweinyddiaeth proffesiynol cenedlaethol.
➢ Tîm o staff a llywodraethwyr ymroddedig a chefnogol.
Dyddiad cau: 03/12/2024
Llunio rhestr fer: 09/12/2024
Cyfweliadau: 16/12/2024
Os hoffech drafod y swydd hon, croeso ichi gysylltu âr Pennaeth,
Miss Louise Simms