MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Conwy,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,992 - £27,269 pro rata (G04)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,992 - £27,269 pro rata (G04)
Lleoliad gwaith: Canolfan Nant y BryniauMae croeso i geisiadau am rôl Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3 yn Nant-y-Bryniau i gefnogi pobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl mewn lleoliad ysbyty CAMHS. Mae'r ganolfan addysg yn darparu ystod eang o opsiynau cwricwlwm i bobl ifanc 12-18 oed. Gan weithio dan gyfarwyddyd staff addysgu, bydd y Cynorthwyydd Dysgu'n cefnogi gwaith academaidd yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal ag mewn gweithgareddau creadigol, cymdeithasol a chorfforol.
Mae'r swydd yn golygu cydweithio'n agos bob dydd ag aelodau o'r disgyblaethau eraill yn yr ysbyty - meddygol, therapi, nyrsio a gwaith cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn chwaraewr tîm gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn hyderus i gefnogi ar draws amryw bynciau yn yr ystafell ddosbarth ac yn gallu ymdopi â sefyllfaoedd heriol, yn ogystal â bod yn gyfforddus yn hwyluso ailintegreiddio i leoliadau prif ffrwd ledled Gogledd Cymru ac i fanteisio ar weithgareddau yn y gymuned.
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad
gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Kate Wright, Athrawes mewn gofal, 03000 855342 Wrightk57@hwbcymru.net
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.