MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Ystod Cyflog: 8-14
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth (Ysgol Y Mynydd Du)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Ystod Cyflog: 8-14

Pennaeth (Ysgol Y Mynydd Du)
Swydd-ddisgrifiad
Ysgol y Mynydd Du

Talgarth,
Powys.
LD3 0DQ

Ffôn: 01874 712860

email:
[email protected]

PENNAETH

Swydd barhaol amser llawn - sy'n ofynnol ar gyfer 1 Medi 2025,

Ystod Cyflog: 8-14

Nifer ar y gofrestr: 95

Mae'r llywodraethwyr am geisio penodi olynydd profiadol, brwdfrydig ac ymroddedig i gynnal a datblygu safle'r ysgol fel un o'r ysgolion cynradd blaenllaw ym Mhowys a'r gororau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn canfod ysgol sy'n:
  • Ysgol boblogaidd, lwyddiannus, gynhwysol a blaengar.
  • Ysgol sydd â hanes o gynnal lefel uchel o ddeilliannau dysgwyr.
  • Ysgol greadigol sy'n arloesol yn ei datblygiad tuag at y Cwricwlwm i Gymru
  • Ysgol hapus, lle mae'r plant yn gweithio'n galed ac yn llawn cymhelliant i wneud eu gorau.
  • Ysgol sydd â hanes rhagorol o gyflawniad academaidd a gofal am lesiant cymunedol disgyblion ac ysgolion
  • Tîm brwdfrydig iawn o athrawon rhagorol, gyda chefnogaeth cynorthwywyr addysgu ymroddedig.
  • Ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau rhagorol mewn ysgol a adeiladwyd yn ddiweddar ar gyfer yr 21ain ganrif.
  • Amgylchedd hardd mewn cymuned wledig hyfryd gyda'r ysgol wedi'i lleoli ym Mannau Brycheiniog
  • Llywodraethwyr cefnogol, rhieni, a'r gymuned a Chyfeillion gweithgar i'r ysgol.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos:
  • Sgiliau arweinyddiaeth profedig sy'n ysgogi staff a disgyblion i gyrraedd eu potensial llawn.
  • Cydnerthedd ar bob lefel a derbyn yr her o symud tuag at ragoriaeth neu ei chynnal.
  • Sgiliau addysgu rhagorol (mae'r swydd yn gofyn am ymrwymiad addysgu o 0.4)
  • Meddu ar ddisgwyliadau uchel oddi wrth y disgyblion a'r staff.
  • Rheolaeth ariannol ragorol.
  • Gwybodaeth drylwyr o'r cwricwlwm i Gymru.
  • Gwybodaeth ragorol am god ac arferion ADY Cymru.
Byddem yn annog pob ymgeisydd i ymweld â'r ysgol cyn gwneud cais.

Gellir trefnu ymweliadau drwy gysylltu â gweinyddydd yr ysgol (manylion uchod)

Mae ffurflenni cais a manylion y swydd ar gael oddi wrth [email protected]

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau i'r Awdurdod Lleol erbyn 12 Ionawr 2025 ynghyd â llythyr ategol cryno gan yr ymgeisydd.

Rhestr fer i'w chynnal ar 14 Ionawr 2025

Cyfweliadau i'w cynnal ar 29 a 30 Ionawr 2025

Mae gofyn bod â Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)