MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1 - Ysgol Arbennig

32.5 awr yr Wythnos / 39 wythnos y flwyddyn (ynghyd â hawl gwyliau)

Cyflog - Gradd 4

Ei angen cyn gynted â phosibl - cyfnod penodol tan ddiwedd Awst 2025 i ddechrau

3 swydd ar gael

Rydym am benodi 3 Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 gyda chontract am gyfnod penodol.

Bydd y swydd am 32.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig: dydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd angen i chi feddu â chymwysterau addas gydag o leiaf TGAU mewn Saesneg a Mathemateg; mae angen i chi fod yn ymroddedig i'ch datblygiad proffesiynol eich hun a bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol arall, gan arwain yn ddelfrydol at NVQ 2.

Byddai profiad blaenorol o weithio gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig o fantais.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm yr ysgol, gan weithio dan oruchwyliaeth gyffredinol yr athrawon dosbarth ledled yr ysgol.

Bydd y rôl hon yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar draws pob dosbarth ym Mhenmaes.

Bydd y cynorthwywyr addysgu yn cefnogi'r athrawon dosbarth ac yn cefnogi dysgu a lles disgyblion neu grwpiau unigol; gallant ddarparu gofal priodol i'r rhai sy'n dibynnu ar oedolion am eu hanghenion sylfaenol. Gall hyn gynnwys diwallu eu hanghenion wrth fynd i'r toiled gyda codi a chario yn rhan o hynny. Mae'r swyddi'n gofyn am agwedd ymroddedig a hyblyg gan fod lles ein holl ddisgyblion yn bwysig iawn.

Dyddiad cau: 1 Rhagfyr 2024

Cyfweliadau: wythnos yn dechrau: 9 Rhagfyr 2024

Mae'r swyddi'n amodol ar gwblhau'r gwiriadau diogelu canlynol yn foddhaol:
  • Geirdaon
  • Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Copïau o gymwysterau
  • Cofrestriad CGA
  • Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.