MANYLION
  • Lleoliad: Abergavenny, Monmouthshire, NP7 6HF
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu - Ysgol Gymraeg Y Fenni

Cyngor Sir Fynwy
Mae’r pennaeth a’r corff llywodraethol yn chwilio am unigolyn dawnus ac ymroddgar o ran cefnogi dysgu plant. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn partneriaeth gyda staff dynamig ac uchelgeisiol, y gymuned a'r corff llywodraethol er mwyn sicrhau canlyniadau addysg rhagorol ar gyfer disgyblion Ysgol y Fenni.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â staff creadigol a blaengar. Dyma swydd diddorol, ond hynod werth chweil ac rydym yn chwilio am y person iawn i ymuno â ni fel rhan annatod o'n tîm cyfeillgar, ymroddedig ac ysbrydoledig. Bydd y pennaeth, staff a’r corff llywodraethol yn darparu cefnogaeth heb ei hail i’r ymgeisydd a fydd yn dangos ymroddiad o’r safon uchaf i gydweithio’n frwdfrydig gyda nhw, i gynnig y gorau posib i holl blant yr ysgol. Mae’r gallu i gyfarthebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol.

Pwrpas y Rôl hon:-
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithiwr proffesiynol profiadol, ac yn meddu ar:
• Gweithio o dan gyfarwyddyd athrawon ac aelodau o’r Uwch Dîm Rheoli ac o fewn system goruchwyliaeth yr ysgol
• Rhoi cefnogaeth i unigolion neu grŵp o ddisgyblion er mwyn hyrwyddo mynediad i ddysgu iddynt
• Cynorthwyo’r athro/awes yn nhrefniant dydd i ddydd y disgyblion yn y dosbarth a’r dosbarth tu allan

Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Rôl hon:-

• Cefnogaeth i ddisgyblion

• Modeli iaith gywir a safonol yn y Gymraeg.
• Goruchwylio a rhoi cefnogaeth i ddisgyblion gan gynnwys rhai sydd ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu diogelwch a mynediad i weithgareddau dysgu.
• Cynorthwyo gyda dysgu a datblygiad holl ddisgyblion y dosbarth gan gynnwys gweithredu Cynlluniau Addysgiadol Unigol a Chynlluniau Ymddygiad Unigol y disgyblion lle’n briodol.
• Hybu cynhwysiad a chynnydd pob disgybl yn y dosbarth.
• Annog y disgyblion i gydweithio a chymysgu ag eraill a chynorthwyo gyda gweithgareddau.
• Gosod disgwyliadau heriol.
• Annog y plant i fod annibynnol a datblygu eu hunan-hyder.
• Rhoi adborth i ddisgyblion am eu gwaith a’u hymddygiad. Cydnabod a gwobrwyo eu llwyddiannau
• Gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro/awes i greu awyrgylch dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol
• Trafod gyda’r athro/awes wrth gynllunio yn y tymor byr ar gyfer grwpiau/unigolion/dosbarth cyfan
• Adrodd yn ôl yn rheolaidd ar gynnydd a chyrhaeddiad plant gan dynnu sylw at unrhyw anhawster neu broblem
• Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy wneud arsylwadau, cadw record ac adrodd nôl i’r athrawes
• Yn delio gyda thasgiau clerigol a gweinyddol y dosbarth e.e llungopio, casglu arian, dosbarthu gwaith / llythyron, ffeilio
• Hybu ymddygiad bositif ac agweddau positif at ddysgu
• Gweithredu’r gweithgareddau dysgu a gytunwyd gyda’r athro/awes.
• Gweithredu rhaglenni dysgu sydd ynghlwm â lles, strategaethau llythrennedd, rhifedd a TGCh
• Paratoi, trefnu a defnyddio yr offer angenrheidiol ar gyfer y wers a chynorthwyo’r disgyblion i’w defnyddio ; eu casglu a’u cadw ar ôl y wers
• Cefnogi’r defnydd o TGCh yn y gweithgareddau dysgu a datblygu hyder ac annibyniaeth y disgyblion yn hyn
• Trafod materion mewn ffyrdd sensitif a phroffesiynol gyda staff yr ysgol
• Cyfrannu at gyfarfodydd rhieni ac adolygiad blynyddol (lle bo angen)
• Cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol er mwyn datblygu Cwricwlwm 2022 ar draws yr ysgol
• Meddu ar ymwybyddiaeth dda o bolisiau a gweithdrefnau yr ysgol yn ymwneud â chynhwysedd, Gofal Plant, Iechyd a Diogelwch, Cyfrinachedd a Gwarchod Data, gan roi gwybod am unrhyw gonsyrn i’r person cymwys
• Cymryd gofalaeth am y dosbarth o bryd i’w gilydd pan nad oes unrhyw drefniant arall yn bosib
• Cyfrannu at ethos a gweithgareddau yr ysgol, ac i fod yn ymwybodol o anghenion y Cwricwlwm
• Cefnogi gwaith asiantaethau allanol er mwyn gwella cynnydd dysgyblion.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant yn ôl y galw.
• Mynychu cyfarfodydd perthnasol
• Goruchwylio disgyblion tu allan i’r dosbarth gan gynnwys cyn ac ar ôl amserau ysgol ac amser cinio
• Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau a gwibdeithiau tu allan i’r ysgol