MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Caldicot, Monmouthshire, NP26 4NR
- Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Gorffen: 31 August, 2025
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwy-ydd addysgu cyffredinol (Lefel 3) - Ysgol Gymraeg y Ffin
Cyngor Sir Fynwy
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Y Ffin yn chwilio am gynorthwy-ydd dysgu egnïol a brwdfrydig i’r ysgol boblogaidd hon. Mae hwn yn gyfle gwych i weithio ochr yn ochr â'r holl randdeiliaid ysgol i sicrhau lles a datblygiad personol pob plentyn.
Pwrpas y Rôl hon:-
• Gweithio dan gyfarwyddyd uniongyrchol staff addysgu/uwch, fel arfer yn yr ystafell ddosbarth.
• Cefnogi mynediad i ddysgu ar gyfer disgyblion a darparu cymorth cyffredinol i’r athro wrth reoli’r disgyblion a’r ystafell ddosbarth.
• Cefnogi grwpiau dysgu
Eich cyfrifoldebau yw:-
• Diwallu anghenion personol y disgyblion, a gweithredu rhaglenni personol cysylltiedig, yn cynnwys materion cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, cymorth tŷ bach, bwyta a symudoledd.
• Arolygu a chynorthwyo disgyblion gan sicrhau eu diogelwch a mynediad i ddysgu.
• Meithrin cydberthnasau da gyda disgyblion, ymddwyn fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol gan ymateb iddynt.
• Sicrhau bod pob disgybl yn cael ei gynnwys a’i dderbyn.
• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad yr athro.
• Annog disgyblion i ymddwyn yn annibynnol fel y bo’n addas.