MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthenshire,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth @ Ysgol Pum Heol

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 1028

Sefydliad: Ysgolion

Adran: Ysgol Gynradd Pum Heol

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Parhaol Amser Llawn

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Gradd: Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyflog o: £49,213

Cyflog i: £49,213

Oriau Contract: Llawn Amser

Dewch i ymuno â'n tîm
Ysgol Pum Heol

77 ar y Gofrestr

Graddfa Gyflog:

£63,290 - £73,426 (L10 - L16)

PENNAETH

Yn eisiau cyn gynted â phosibl

Ysgol gynradd gymunedol yw Ysgol Pum Heol. Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer plant o 3 i 11 oed. Mae Ysgol Pum Heol yng nghanol pentref Pum Heol ger Llanelli.

Dymuna'r llywodraethwyr benodi ymarferwr ysbrydoledig, brwdfrydig, ymroddgar a deinamig i arwain, herio a pharhau i godi ein dyheadau a sicrhau cyfleoedd dysgu rhagorol cyson i bob disgybl. Mi fydd yna ddisgwyliad i'r pennaeth gael cyfrifoldeb dysgu am o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
  • Gweledigaeth glir am ragoriaeth addysgol ac yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau disgyblion
  • Gallu i adeiladu ar y cryfderau presennol a datblygu potensial disgyblion a staff ymhellach
  • Gallu i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd disgyblion a staff
  • Disgwyliadau uchel o ran cynnydd, cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion, gan sicrhau bod diddordebau a llesiant disgyblion wrth wraidd yr holl waith cynllunio
  • Egni i gynnal y cyfleoedd Cwricwlwm cyfoethog ac eang, wrth ymgorffori egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau profiadau dysgu perthnasol iawn i bob disgybl;
  • Yn gyfathrebwr rhagorol sy'n gallu ymgysylltu'n effeithiol â phlant, rhieni, staff a llywodraethwyr trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.

Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Dyddiad Cau: Dydd Iau, 28 Tachwedd 2024

Llunio'r Rhestr Fer: Dydd Llun, 2 Rhagfyr 2024

Cyfweliadau: Dydd Llun a Dydd Mawrth, 9 a 10 Rhagfyr 2024

Os ydych yn dymuno ymuno â chymuned ein hysgol a chredwch fod gennych y sgiliau a'r ddawn i arwain yr ysgol i ddyfodol mwy disglair, yna byddem yn croesawu eich cais. Os hoffech ymweld â'r ysgol, cysylltwch â Chadeirydd y Llywodraethwyr, Nerys Burton drwy Nerys.Burton@fiveroads.ysgolccc.cymru neu 01269 860498.

Disgrifiad Swydd: 24-11-06 - Pecyn Recriwtio - Pum Heol.pdf - 1148KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 9 Rhagfyr 2024

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 28/11/2024, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.