MANYLION
  • Lleoliad: Magor, Monmouthshire, NP26 3ET
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Magor

Cyngor Sir Fynwy
Rydym yn chwilio am berson i lenwi’r rôl fel Cogydd Cynorthwyol yn Magor. Bydd dyletswyddau yn cynnwys helpu’r Cogydd i baratoi prydau bwyd a dirprwyo pan fydd y Cogydd yn absennol.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn chwaraewr tîm, ac yn meddu ar y gallu i gyfathrebu yn effeithiol ac effeithlon gyda staff ar bob lefel.

Bydd angen cymhwyster Hylendid Bwyd CIEH Lefel 3 ond nid yw hyn hanfodol gan y bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Pwrpas y Rôl:-
Rydym yn chwilio am berson i lenwi’r rôl fel Cogydd Cynorthwyol yn Ysgol Gynradd Magor. Bydd dyletswyddau yn cynnwys paratoi, gweini, clirio, golchi a glanhau.

Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Rôl hon:-
Bydd disgwyl i chi gynorthwyo gyda’r broses o sicrhau bod y gwasanaeth prydau bwyd ysgolion yn cael ei ddarparu yn ddidrafferth ar unrhyw safle addysgol.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn chwaraewr tîm, ac yn meddu ar y gallu i gyfathrebu yn effeithiol ac effeithlon gyda staff ar bob lefel.

Bydd angen cymhwyster Hylendid Bwyd CIEH Lefel 3 ond nid yw hyn hanfodol gan y bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:-
• Helpu’r Cogydd i baratoi prydau a gyda’r gwasanaeth bwyd.

• Ymgymryd â’r ystod lawn o ddyletswyddau’r cogydd pan fydd y Cogydd yn absennol gan gynnwys yr holl ddyletswyddau gweinyddol a’r gweithdrefnau.

• Yn ymgymryd â dyletswyddau fel cogydd mewn unrhyw leoliad pan fydd angen, o fewn pellter rhesymol, pan fydd y Cogydd yn absennol o’r gwaith. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn talu am unrhyw gostau teithio sydd yn gyfystyr gyda’r gost o deithio o gartref i’r lle gwaith newydd ac o’ch cartref i’r hen le gwaith, a hynny yn seiliedig ar gyfraddau cludiant cyhoeddus.

• Meddu ar Hylendid Bwyd Lefel 3 CIEH (byddwn yn cynnig hyfforddiant os nad yw’r ymgeisydd yn meddu ar hyn).

• Gweithio fel rhan o dîm arlwyo Sir Fynwy ar unrhyw safle addysgol.

• Mynd ar unrhyw gyrsiau hyfforddi fel sydd angen ar gyfer y swydd.

• Cydymffurfio gyda’r gofynion sydd wedi eu hamlinellu yn Llawlyfr Gweithdrefnau Arlwyo Sir Fynwy o ran safonau ansawdd.

• Cydymffurfio gyda rheoliadau Iechyd a Diogelwch.

• Cydymffurfio ag egwyddorion ac arferion cyfleoedd cyfartal fel sydd wedi eu hamlinellu ym Mholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor.