MANYLION
  • Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 34,314 - 36,124 *
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cynhwysiant Addysg

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 34,314 - 36,124 *

Ynglŷn â'r rôl
Rydym am recriwtio Swyddog Cynhwysiant Addysg i ymuno â'n Gwasnaeth Cynhwysiant Addysg ar cytundeb i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth.

Mae hyn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig ymuno gyda thim egniol i gefnogi lles, presenoldeb a deilliannau disgyblion Ceredigion. Yn rhan o'ch dyletswyddau mi fyddwch yn sicrhau bod yr awdurdod a'i ysgolion yn cadw at cyfrifoldebau statudol yng nghyswllt presenoldeb yn yr ysgol a materion cysylltiedig. Mi fyddwch hefyd yn cefnogi ysgolion, plant a'u theuluoedd drwy sicrhau fod pob disgybl yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd.

O ddydd i ddydd byddwch yn:
  • herio a chefnogi ysgolion unigol yng nghyswllt presenoldeb disgyblion a rhoi cyngor ar arfer dda
  • cefnogi rhieni i gyflawni eu dyletswydd cyfreithiol yng nghyswllt addysg eu plentyn (plant)
  • ymgymryd a gwaith achos gyda disgyblion a rhieni
  • gweithio gydag adrannau ac asiantaethau eraill fel y bo angen
  • ymgymryd a maes gwaith arbenigol ar ran y gwasanaeth (fel y cytunwyd gan y reolwr llinell)


    Rydym am recriwtio unigolyn sydd a'r sgiliau canlynol:
    • medru gweithio ar ben eich hun a blaenoriaethu baich gwaith
    • yn drefnus a medru dadansoddi data ac ysgrifennu adroddiadau cryno
    • parodrwydd i herio ysgolion yng nghyswllt gweithredu arfer dda
    • parodrwydd i herio agweddau a all effeithio ar hawl y plentyn i addysg gyflawn ac effeithiol a defnyddio ymyrraeth gyfreithiol, os oes angen
    • medru gweithio yn effeithiol o fewn cyd-destun amlasiantaethol yn ol yr angen
    • sgiliau cyfathrebu ardderchog, yn llafar ac yn ysgrifenedig
    Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg.

    Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma.

    Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.

    Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
    • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
    • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
    Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

    Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Catrin Petche, Arweinydd Tîm Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg ar catrin.petche@ceredigion.gov.uk

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.


        Yr hyn a gynigwn

        Cydbwysedd bywyd a gwaith

        Cynllun cynilo ffordd o fyw

        Cynllun pensiwn cyflogwr hael

        Cynllun beicio i'r gwaith

        Dysgu a datblygu

        Lle byddwch yn gweithio

        Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
        Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
        • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
        • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
        • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
        • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
        • Derbyniadau Ysgol
        • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
        • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
        • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
        • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
        Canolfan Rheidol Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
        Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
        Darllen mwy