MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: ISR: 6-12 (Grŵp 1a)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Tachwedd, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth (Ysgol Brynhafren)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: ISR: 6-12 (Grŵp 1a)

Pennaeth (Ysgol Brynhafren)
Swydd-ddisgrifiad
PENNAETH
Angen ar gyfer Medi 1af, 2025
ISR: 6-12 (Grŵp 1a)
Nifer o ddisgyblion: 31
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Brynhafren, ysgol wledig fach yng nghalon y gymuned, yn dymuno penodi pennaeth sydd am barhau i ddatblygu ein hysgol gartrefol, hapus a blaengar. Bydd y rôl, yn ogystal â gwaith arweinyddiaeth a rheoli'r pennaeth, yn cynnwys cyfrifoldebau addysgu dosbarth, sydd yn galluogi'r ymgeisydd llwyddiannus i gyflawni rôl ymarferol o wedithredu Cwricwlwm i Gymru. Mae Ysgol Brynhafren yn cynnig addysg
Gynradd ble mae disgyblion yn addysg gynradd lle gall plant ffynnu a datblygu i fod yn ddinasyddion annibynnol, hyderus, creadigol, parchus a meddylgar.
Rydym yn awyddus i benodi arweinydd sydd:
• Yn ysbrydoli ac yn ysgogi'r staff, y disgyblion a'r gymuned;
• Dangos sgiliau arwain a rheoli effeithiol; yn ymarferydd arloesol, brwdfrydig a deinamig; Disgwyliadau uchel ym mhob agwedd o fywyd ysgol; Y gallu i hyrwyddo gwaith tîm effeithiol; meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau'r cwricwlwm cyfredol, ar lefel leol a chenedlaethol; yn arweinydd strategol cryf; Cyfathrebu'n dda gyda'r holl randdeiliaid.
• Mae ganddo'r CPCP neu'n bennaeth sy'n dychwelyd
Yn gyfnewid gallwn gynnig i chi:
• Staff brwdfrydig ac ymroddedig; Corff Llywodraethol cefnogol; Plant sy'n cael eu gwerthfawrogi, yn hapus ac yn awyddus i ddysgu; Amgylchedd gwaith a dysgu deniadol a dymunol.
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â Chadeirydd y Corff Llywodraethol, Katie Finlayson drwy ei chyfeiriad e-bost, [email protected]
Gwefan: https://brynhafren.weebly.com/
Yn ei ragwelir y bydd y cyfarfod rhestr fer a'r cyfweliadau ar y dyddiadau canlynol:
Dyddiad cau: Dydd Llun, Tachwedd 11eg, 2024
Rhestr Fer: Tachwedd 14eg, 2024
Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 2ail Rhagfyr, 2024 - dyddiad i'w gytuno.
Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS gwell
Ar gyfer ffurflenni cais a manylion pellach, ffoniwch 01597 82 6409
Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi i Wasanaethau Cyflogaeth, Adnoddau Dynol,
Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys LD1 5LG erbyn ddydd Llun, Tachwedd 11eg, 2024.