MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Tachwedd, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Arlwyo - St Joseph's

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G02 £11.59 yr awr
15 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig (38 wythnos)
Rydym yn chwilio am gymhorthydd arlwyo parhaol i gynorthwyo gyda dyletswyddau cegin ac ystafell fwyta yn yr ysgol uwchradd uchod.
Prif Ddyletswyddau:-
1 - Paratoi bwyd a diodydd sylfaenol, e.e. paratoi llysiau, ffrwythau a salad.
2 - Dyletswyddau coginio syml, megis paratoi byrbrydau.
3 - Dyletswyddau cegin ac ystafell fwyta cyffredinol, e.e. golchi llestri, symud byrddau bwyta a chadeiriau, clirio'r ystafell fwyta.
4 - Glanhau'r gegin, yr offer a'r cyffiniau.
5 - Unrhyw ddyletswyddau sy'n gymesur â natur a graddfa'r swydd, yn ôl cyfarwyddyd y Prif Gogydd.
6 - Gweithredu system weinyddu prydau ysgol gyfrifiadurol.
Mae ffurflenni cais ar gael gan Susan Thomas, Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion, Adran Tai a'r Economi, Ffordd Rhuthun, Wrecsam. LL13 7TU. Rhif ffôn: 01978 315647
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.