MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: G04 PR 8 - 11 £14,847.86 - £16,114.35 per annum
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Tachwedd, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cogydd â Gofal

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: G04 PR 8 - 11 £14,847.86 - £16,114.35 per annum

Lleoliad gwaith: Ysgol Ffordd Dyffryn

Bydd yr oriau gwaith oddeutu 26.25 awr yr wythnos, bydd y swydd ar raddfa G04 PR 8 - 11 £14,847.86 - £16,114.35 y flwyddyn. £12.8037 - £13.4656 yr awr.

Mae angen unigolyn brwdfrydig i ddarparu gwasanaeth arlwyo ar gyfer y disgyblion, staff ac ymwelwyr. Bydd yn darparu prydau ysgol yn unol â bwydlenni y cytunwyd arnynt yn ganolog a chyflawni'r dyletswyddau goruchwylio cysylltiedig.

Prif ddyletswyddau'r swydd fydd:
1. Trefnu, paratoi a gweini bwyd amser cinio i ddisgyblion, staff ac ymwelwyr Ysgol Ffordd Dyffryn
2. Darparu hyfforddiant ymarferol i weithwyr newydd a chyd weithwyr tra'n gweithio yn y gegin.
3.Coginio'r prydau sydd angen, monitro'r prydau bwyd, rhannu'r bwyd, archebu, golchi llestri a glanhau'r gegin a'r ystafell fwyta.
4. Bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant addas ac i ddatblygu (weithiau y tu allan i ddiwrnodau/oriau gweithio arferol trwy drefnu ymlaen llaw) h.y. Hylendid Bwyd Canolradd a Maeth Sylfaenol.
5. Dyletswyddau clercio cysylltiedig.

Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Wendy Pritchard, Rheolwr Ardal Arlwyo (01492 575581, wendy.pritchard@conwy.gov.uk)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.

Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.