MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 23,656 *
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 - Ysgol Gyfun Penweddig

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 23,656 *

Ynglŷn â'r rôl
Mae'r ysgol yn chwilio am berson brwdfrydig ac egnïol sy'n meddu ar sgiliau rhyngbersonol dda i ymgymryd â'r swydd uchod yn yr Adran Gynnal.

Mae Penweddig yn ysgol lwyddiannus, sydd â hanes o welliant a datblygiad. Mae nifer sylweddol o'n disgyblion yn sicrhau canlyniadau TGAU a Lefel A sydd yn uwch nag ysgolion cyffelyb. Mae ymddygiad ein disgyblion yn dda iawn, ac mae ganddynt ymagwedd bositif ac ysgogol at ddysgu. Cyniga'r ysgol gwricwlwm eang a chytbwys gydag ystod gyfoethog o weithgareddau allgyrsiol. Mae Penweddig yn ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol.

Pecyn Gwybodaeth

Gellir cael mwy o wybodaeth am fywyd bob dydd yr ysgol drwy gysylltu â'r ysgol neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae croeso i chi wneud hynny drwy naill ai drwy ffonio'r ysgol (01970 639499), neu drwy e-bost at ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Ysgol Gyfun Penweddig Sefydlwyd Penweddig yn 1973 ac mae'r ysgol yn gymuned Gymreig sydd yn seilio ei gwaith ar y gwerthoedd sylfaenol o ofal, parch tuag at ein gilydd a gonestrwydd. Ffocws yr ysgol yw cyflawni potensial pob disgybl a gwneir pob ymdrech i gyrraedd y s...
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy