MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £20.03 / awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £20.03 / awr
Aseswr Achlysurol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol L2-5Department: Gwasanaethau Cymunedol a Phroffesiynol
Employment Type: Dim Oriau
Location: Campws Aberystwyth
Compensation: £20.03 / awr
DescriptionMae cyfle cyffrous gan Goleg Ceredigion i Aseswr Achlysurol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol L2-5, wedi'i leoli ar ein Campws yn Aberystwyth. Swydd achlysurol yw hon gyda hyd at 37 awr yr wythnos ar gael.
Fel Aseswr, byddwch yn rheoli llwyth achosion o rhwng 30 i 35 o ddysgwyr ar draws ein lefelau 2 - 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Disgwylir i chi gysylltu â chyflogwyr a dysgwyr i gynllunio, monitro, a gwerthuso cynnydd dysgwyr yn erbyn y fframwaith perthnasol. Yn ychwanegol, mae aseswyr hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda staff darlithio i sicrhau bod y rhaglen brentisiaeth yn cael ei chyflwyno, ei chwblhau a'i chyflawni'n effeithiol.
Beth sydd angen arnoch chi?I fod yn llwyddiannus, bydd angen NVQ Lefel 3-5 (neu uwch) arnoch chi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn ddelfrydol, bydd gennych yn ogystal brofiad diwydiannol perthnasol o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Er bod dyfarniad aseswr yn ddymunol, os nad ydych yn meddu ar hwn, bydd gofyn i chi ei ennill o fewn 2 flynedd i'r dyddiad cychwyn.
Ar wahân i gymwysterau, bydd angen sgiliau trefnu cryf a sgiliau rheoli amser ardderchog arnoch gan y byddwch fel arfer yn gweithio oddi ar y safle yn cyfarfod â chyflogwyr a dysgwyr yn y gweithle. Oherwydd y teithio helaeth ar draws ardal ddaearyddol wledig, byddai trwydded yrru yn ddymunol, fodd bynnag mae'r angen i allu teithio at gyflogwyr yn hanfodol. Mae cronfa geir gan y Coleg sydd ar gael i'w defnyddio, felly ni fydd angen i chi ddefnyddio eich car eich hun.
Beth i'w wneud nesaf?Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk. Os hoffech chi ymgeisio, ewch ati i wneud cais drwy ein tudalen gyrfaoedd ac atodwch gopi o'ch CV. Os cewch eich dewis ar gyfer cyfweliad, bydd un o'r tîm yn cysylltu â chi i drefnu amser a dyddiad sy'n addas i chi.