MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £26,842 Codiad cyflog i ddod - £29,380 Codiad cyflog i ddod
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog pontio iechyd meddwl a llesiant CC/2727

Coleg Cambria

Cyflog: £26,842 Codiad cyflog i ddod - £29,380 Codiad cyflog i ddod

Disgrifiad Swydd

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagor ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Swyddog Pontio Iechyd a Llesiant

Lleoliad: Ial

Math o Gytundeb: Llawn amser, Tymor Sefydlog, (Tachwedd 2025)

Cyflog: £26,842 - £29,380

A oes gennych chi ddiddordeb mewn cefnogi a gweithio ym maes Iechyd Meddwl?

Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddog Pontio Iechyd Meddwl a Llesiant. Yn y swydd hon, byddwch yn sicrhau bod dysgwyr sydd ag anghenion iechyd meddwl a/neu ddiogelu o ysgolion neu leoliadau eraill yn cael cyfnod pontio esmwyth i'r coleg; a byddwch yn cefnogi dysgwyr o'r coleg i addysg bellach.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, gan ddangos ysgogiad personol a hunanhyder, yn chwaraewr tîm cryf sy'n gallu gweithio'n gydweithredol gydag aelodau tîm o bob lefel.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, mae'n rhaid bod gennych brofiad profedig o weithio gyda phobl ifanc sydd â salwch meddwl.

Gofynion Hanfodol
  • Lefel 3 neu uwch mewn cymhwyster iechyd meddwl neu lesiant perthnasol
  • Profiad profedig o weithio gyda phobl ifanc gyda salwch meddwl.
  • Sgiliau gweinyddu a threfnu gan gynnwys profiad o drin gwybodaeth gyfrinachol.
  • Gallu dangos gwydnwch personol er mwyn gallu ymdopi ag ystod o sefyllfaoedd anodd.
  • Sgiliau llythrennedd digidol cymwys.
  • Gally datblygu a defnyddio ystod o dechnegau dysgu ac addysgu.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig