MANYLION
- Lleoliad: Cross College,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £23,088.00 - £24,513.00 (CLlA) Graddfa 3
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £23,088.00 - £24,513.00 (CLlA) Graddfa 3
Additional Learning Support AssistantSwydd ddisgrifiad
Am y rôl:
Annog a gweithio gyda phobl ifanc sydd angen cymorth dysgu ychwanegol drwy ddileu rhwystrau; academaidd, emosiynol neu gymdeithasol. Gweithio'n agos gyda staff academaidd a staff cymorth. Cynorthwyo i ddatblygu, gweithredu, monitro a gwerthuso ystod eang o fecanweithiau cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gefnogi dysgwyr unigol i symud ymlaen yn llwyddiannus drwy eu hastudiaethau galwedigaethol.
Gwybodaeth Bellach:
Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl. Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’,dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law.
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected].