MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth L16-L20
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Tachwedd, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth (Ysgol Uwchradd Llanidloes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth L16-L20

Dirprwy Bennaeth (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
Os ydych chi'n Arweinydd ar hyn o bryd gydag angerdd a phwrpas moesol dros wneud gwahaniaeth, efallai mai dyma'r rôl i chi. Mae'r Corff Llywodraethol am benodi arweinydd ymroddedig, brwdfrydig, ysgogol ac arloesol i ymuno â'r ysgol ar adeg o newid pwysig.

Bydd cyfrifoldebau'r swydd yn cynnwys arwain ar addysgu a dysgu a datblygu sgiliau gyda ffocws ar ddilyniant ac asesu, datblygu'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol.

Mae'r ysgol yn chwilio am rywun sydd:
  • yn fodel rôl ardderchog ac yn effeithiol wrth arwain, ysgogi a chefnogi tîm.
  • â hanes profedig o wella lles disgyblion.
  • gallu gyrru safonau, arwain dysgu ac addysgu, gan sicrhau bod cyfleoedd dysgu cyffrous, creadigol, heriol a grymusol i bob disgybl.
  • â gallu profedig fel ymarferwr creadigol ac ysbrydoledig gydag ymrwymiad i safonau uchel.
  • weithiwr tîm rhagorol, sy'n gallu gweithio ochr yn ochr ag uwch arweinwyr eraill yn yr ysgol.
  • â phrofiad o reoli ysgol o ddydd i ddydd.
  • yn meddu ar hydwythder, egni, hyblygrwydd, brwdfrydedd ac yn ddi-baid yn eu hymgyrch i wella eu hunain a'r sawl o'u cwmpas.
  • yn meddu ar fedrau arwain hynod effeithiol.
  • yn gallu croesawu a rheoli newid a gweithio gyda phartneriaid cymunedol, gan gynnwys meithrin cysylltiadau pwysig gyda rhieni a'n hysgolion clwstwr.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd ac yr hoffech drefnu trafodaeth anffurfiol gyda'r Pennaeth mae croeso i chi gysylltu drwy law e-bost â Susan Bound ( [email protected] ).

Gofynnir i bob ymgeisydd lenwi'r ffurflen gais ynghlwm gan amlinellu sut mae eich sgiliau, eich profiad a'ch rhinweddau yn dangos mai chi'r yw'r person delfrydol i ymuno â'r ysgol.

Datganiad Diogelu

Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr ymgymryd âr ymrwymiad hwn.

Dyddiad cau: Tachwedd 17 eg , 2024

Dyddiad llunio rhestr fer: 18 fed Tachwedd, 2024

Dyddiadau cyfweld: 3 ydd a 4 ydd Rhagfyr, 2024

Dyddiad cychwyn: 1 af Mai 2024 (neu'n gynt os yn bosibl)

Mae angen Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.