MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £23,261
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £23,261
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 961
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Arlwyo
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig
Lleoliad: Llandeilo
Gradd: Gradd A +4%
Cyflog: £23,261
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £12.05
Oriau Contract: 3.75
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae angen Cynorthwyydd Brecwast ar ein hysgol a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod ein man paratoi bwyd yn lân cyn paratoi a gweini ein brecwast maethlon. Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys dyletswyddau cyffredinol yn y gegin a'r ystafell fwyta gan gynnwys gosod a chlirio byrddau a dyletswyddau glanhau cyffredinol.
Mae'r swydd hon am 3.75 awr yr wythnos / 45 munud y dydd. Y gyfradd fesul awr yw £12.05
Ein horiau gwaith yw dydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor yn unig, sy'n ddelfrydol i gyd-fynd ag ymrwymiadau teuluol / y diwrnod ysgol. Rydym yn cynnig cynllun cyflog 'blynyddol' fel bod ein staff sy'n gweithio yn ystod y tymor yn unig yn derbyn cyflog dros 52 wythnos.
Yr Ymgeisydd - Rydym yn chwilio am rywun sy'n meddu ar y canlynol:
- Y gallu i feithrin perthnasoedd da gyda rhieni a phlant ar sail parch at y naill a'r llall.
- Gwybodaeth sylfaenol am Ddiogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch. Byddai hyn yn fanteisiol, ond nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi.
- Sgiliau pobl a sgiliau cyfathrebu da
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
- Agwedd gadarnhaol a'r parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â: Bethan Williams - 07812 483745 - BNWilliams@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: Breakfast Assistant.pdf - 164KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 11/11/2024, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.