MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb : Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £8,665
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 29 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £8,665
Ynglŷn â'r Rôl20 awr - Parhaol
Rydym yn chwilio am Ofalwr i fod yn gyfrifol am waith cynnal a chadw dyddiol, diogelwch, glendid a gofal cyffredinol o adeilad a thiroedd yr ysgol; gan sicrhau bod yr ysgol yn darparu amgylchedd diogel, glân a chroesawgar i ddisgyblion, staff ac ymwelwyr. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r Pennaeth a'r glanhawr presennol.
Prif gyfrifoldebau:
Datgloi'r ysgol bob bore, a chynnal gwiriadau arferol o diroedd ac adeilad yr ysgol
Cyflawni mân waith atgyweirio a chynnal a chadw, gan gynnwys rhai tasgau addurno yn ystod gwyliau'r ysgol
Nodi materion cynnal a chadw ac adrodd am ddiffygion i'r tîm uwch-reoli
Cyflawni tasgau tymhorol sylfaenol, casglu dail a thaenu graean ar lwybrau
Cwblhau gweithdrefnau diogelwch tân, gan gynnwys gwiriadau arferol
Cadw ardaloedd cytunedig o safle'r ysgol yn lân, yn ddiogel ac mewn cyflwr taclus
Sicrhau bod digon o nwyddau ymolchi ar gael, e.e. tyweli dwylo, sebon a chynhyrchion glanhau
adeilad yr ysgol bob dydd
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.
About Us - Wrexham County Borough Council
Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.
At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.