MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £26,427 - £26,847
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 02 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gofalwr - Ysgol Morgan Llwyd

Cyngor Wrecsam

Cyflog: £26,427 - £26,847

Ynglŷn â'r Rôl
Gofalwr Ysgol - I dechrau cyn gynted a phosibl.

37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn.

Mae oriau gwaith y swydd hon yn cylchdroi ar batrwm pythefnos:

Wythnos 1 - Shifft y Bore

Dydd Llun i ddydd Iau: 7:00yb tan 3:00yp

Dydd Gwener: 7:00yb tan 2:30yp.

Wythnos 2 - Shifft y Prynhawn

Dydd Llun i ddydd Iau: 11:00yb tan 7:00yh

Dydd Gwener: 11:30yb tan 7:00yh.

Gall yr oriau gwaith amrywio yn ystod gwyliau'r ysgol.

Pwrpas y Swydd:

Bod yn gyfrifol am gynnal a chadw safle'r ysgol, yn fewnol ac yn allanol, o dan gyfarwyddyd y Pennaeth neu aelod dynodedig o staff.
Darparu gwasanaeth cynnal a chadw effeithiol o safon uchel ar draws yr ysgol, gan gynnwys glanhau, addurno a chyfrifoldeb dros oleuadau a system wresogi'r ysgol.
Dilyn gweithdrefnau diogelwch rheolaidd a gweithdrefnau ychwanegol yn ôl yr angen ar gyfer tir ac adeiladau'r ysgol, dal goriadau, a bod yn gyfrifol am agor a chloi'r safle a'r adeiladau.

PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU

Systemau Goleuo a Gwresogi
Gweithredu cyfarpar gwresogi'r ysgol yn unol â'r canllawiau perthnasol.
Cynnal a chadw'r ystafelloedd boeleri a chyfarpar gwresogi yn ôl yr angen.
Adrodd ar unrhyw ddiffygion sy'n ymwneud â'r systemau goleuo neu wresogi yn syth.

Glanhau
Glanhau yn unol â chyfarwyddiadau'r Rheolwr Busnes.
Trefnu staff glanhau pan fo angen i sicrhau bod dosbarthiadau a safle'r ysgol yn cael eu glanhau'n briodol.

Safle'r Ysgol
Datgloi ac agor adeiladau'r ysgol bob bore a gwirio am unrhyw ddifrod neu fandaliaeth; adrodd ar unrhyw broblemau a glanhau lle bo hynny'n briodol.
Sicrhau bod adeiladau'r ysgol wedi'u cloi a'u diogelu ar ddiwedd pob diwrnod.

Cynnal a Chadw'r Safle
Clirio sbwriel a thynnu chwyn o dir yr ysgol.
Gwagio biniau.
Cadw mannau storio yn lân, yn daclus ac yn drefnus.
Sicrhau defnydd diogel o offer a'u storio'n briodol.
Sicrhau bod digon o gynhyrchion hylendid a golchi ar gael o amgylch yr ysgol a'u dosbarthu yn ôl yr angen.
Cyflawni dyletswyddau storio a rheoli stoc pan fo angen.
Ymgymryd â gwaith trwsio syml.
Cyflawni'r holl weithdrefnau arferol sy'n gysylltiedig â'r swydd.

Goruchwylio Gwaith Contractwyr ar y Safle
Trefnu, drwy'r Pennaeth, atgyweiriadau neu waith cynnal a chadw sydd y tu hwnt i allu'r gofalwr.
Monitro gwaith glanhau adeiladau a chynnal a chadw tiroedd a wneir gan gontractwyr yn unol â'r gweithdrefnau a benderfynwyd arnynt.

Argyfyngau Annisgwyl
Ymateb i sefyllfaoedd brys neu annisgwyl yn ôl yr angen.

Adnoddau
Defnyddio offer cynnal a chadw priodol a bod yn gyfrifol am ddiogelu prif stoc yr ysgol, cyflenwadau, adeiladau ac adnoddau corfforol eraill.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Amdanom Ni
Gwybodaeth am yr Ysgol

Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe'i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae'r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae tua 950 o ddisgyblion ar ein cofrestr a 75 yn y chweched dosbarth.

Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth. Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.