MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Clerg / Gweinyddwr Lefel 2 (Generig) (Ysgol Uwchradd Aberhonddu)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr

Clerg / Gweinyddwr Lefel 2 (Generig) (Ysgol Uwchradd Aberhonddu)
Swydd-ddisgrifiad
Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £12.00 yr awr

Am y rôl:
Darparu gwasanaeth llawn derbynnydd a chymorth clercyddol i'r ysgol. Mae'r gwaith yn cael ei lywodraethu gan brosesau/gweithdrefnau sefydledig. Mae'r gwaith yn cael ei
wneud heb oruchwyliaeth agos, heblaw'r oruchwyliaeth a ddarperir drwy drefniadau, dulliau a gweithdrefnau gwaith. Daw cyfarwyddyd a goruchwyliaeth gyffredinol gan uwch aelod o staff.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd am oruchwylio staff eraill, os o gwbl, er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/tywys cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb uniongyrchol am adnoddau ffisegol, gan gynnwys trin a phrosesu gwybodaeth mewn modd gofalus, cywir, cyfrinachol a diogel.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS